Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwobr bwysig ar gyfer cartrefi cyngor arloesol

Mae Cyngor Abertawe wedi ennill un o wobrau pwysicaf y DU am adeiladu cenhedlaeth newydd o dai cyngor sydd ymysg y rhai mwyaf ynni-effeithlon yn y wlad.

Colliers Way housing development

Defnyddiwyd technoleg arbed ynni arloesol i greu deunaw o 'gartrefi fel gorsafoedd pŵer' yn Colliers Way, Pen-lan, sy'n cynhyrchu eu pŵer eu hunain i gadw biliau ynni mor isel â phosib.

Nawr, mae'r prosiect wedi cael ei gydnabod fel y fenter tai newydd orau gan awdurdod lleol yn y DU yng Ngwobrau Gwasanaethau nodedig APSE, 2021.

Mae tenantiaid eisoes wedi symud i'r eiddo sy'n rhan o uchelgais Cyngor Abertawe i fuddsoddi miliynau o bunnoedd i adeiladu dros 1,000 o gartrefi newydd i breswylwyr y ddinas dros y 10 mlynedd nesaf.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau, "Mae prosiect Colliers Way wedi bod yn arloesol ym mhob ystyr. Rydym wrth ein boddau fod ein hymagwedd arloesol at adeiladu tai wedi cael ei chydnabod gan ein cyfoedion. 

"Mae'r genhedlaeth newydd hon o gartrefi fel gorsafoedd pŵer yn defnyddio technoleg flaengar i gynhyrchu pŵer, cadw biliau'n isel a chyfrannu at ein huchelgais i fod yn gyngor di-garbon.

"Mae tenantiaid ar eu hennill gan fod eu biliau tanwydd bellach yn is. Ond mae'r amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol ar eu hennill hefyd gan ei fod yn un o'n cyfraniadau i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

"Mae'r cartrefi ymysg y mwyaf ynni-effeithlon yn unrhyw le yng Nghymru ac rydym yn gobeithio y bydd gwobr APSE yn annog awdurdodau lleol eraill i ddysgu gennym a dilyn ein hesiampl yn y blynyddoedd i ddod.

Cyrhaeddodd y cyngor y rhestr fer ar gyfer rhai o wobrau eraill APSE hefyd sef 'Cyngor y Flwyddyn', "Tîm Gwasanaethau Gorau, Tai ac Adeiladu' a'r 'Fenter Fasnacheiddio ac Entrepreneuriaeth Orau'.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2021