Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn ystyried datganiad sefyllfa am laswellt artiffisial

Gallai Cyngor Abertawe roi'r gorau i ddefnyddio glaswellt artiffisial ar ei dir - ac eithrio lle bo angen ar gyfer caeau chwaraeon ac ysgolion, neu ardaloedd dros dro â nifer uchel o ymwelwyr.

Artificial sport pitch - generic (Canva)

Nodwyd y cynnig mewn datganiad sefyllfa drafft am y defnydd o laswellt artiffisial a gyflwynwyd i Bwyllgor Trawsnewid Newid yn yr Hinsawdd ac Adferiad Natur y cyngor.

Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried y cynnig fel rhan o ymrwymiad parhaus Abertawe i hyrwyddo adferiad natur a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Bydd argymhellion y Pwyllgor yn mynd gerbron y Cabinet am benderfyniad terfynol.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Fel cyngor, rydym wedi datgan argyfyngau hinsawdd a natur sy'n golygu y dylem fod yn gwneud popeth y gallwn i amddiffyn a hyrwyddo'n hamgylchedd naturiol, ac i liniaru yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd ac addasu ar eu cyfer.

"Os yw'r datganiad sefyllfa'n cael ei gymeradwyo, byddai'n ffordd o ddangos ein bwriad ac annog eraill i ddilyn ein hesiampl. Mae lle i laswellt artiffisial, yn enwedig pan fo'i hangen ar gyfer caeau chwaraeon 3G a 4G cadarn, lleoliadau ysgol neu i ddarparu arwyneb dros dro mewn lleoliadau prysur.

"Ond, yn gyffredinol, dylem annog pobl i blannu glaswellt go iawn sy'n well ar gyfer bioamrywiaeth, pryfed, iechyd pridd, bywyd o dan y ddaear a'r hinsawdd."

Hysbyswyd y Pwyllgor fod glaswellt artiffisial yn mygu planhigion, pryfed, a'r creaduriaid sy'n eu bwyta, ond mae hefyd yn anodd cael gwared arno pan fydd yn cyrraedd diwedd ei oes a gall gyfrannu at ficroblastigau yn yr amgylchedd a chadwyni bwyd. Nid oes modd ei ailgylchu ar hyn o bryd yn Abertawe.

Ar yr un pryd, gall hefyd gyfrannu at yr hyn sy'n cael ei alw'n effaith yr ynys wres - lle mae ardaloedd trefol yn dod yn gynhesach na'r cefn gwlad o'u hamgylch, gan effeithio ar anifeiliaid yn ogystal ag ansawdd bywyd pobl.

Os yw'r cynnig yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet, ni fyddai'n effeithio ar gaeau 3G a 4G y cyngor. Byddai dewisiadau amgen sy'n fwy ystyriol o natur yn cael eu defnyddio yn lle glaswellt artiffisial mewn ardaloedd cyhoeddus dros amser.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2025