Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb creadigol i gefnogi arloeswyr celf digidol

Mae hwb creadigol newydd yn cael ei ddatblygu yn Abertawe i helpu artistiaid lleol a diwydiannau creadigol i ddod ynghyd i ddysgu sgiliau sy'n gwneud y defnydd gorau o lwyfannau digidol sy'n cael eu cyflwyno yng nghanol y ddinas.

Art Arkade

Art Arkade

Mae hwb Abertawe a fydd yn cael ei ariannu gan Gyngor Abertawe a Chymru Greadigol - menter gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r diwydiannau creadigol - yn un o dri hwb diwylliannol o'r fath yng Nghymru.

Drwy weithredu fel rhwydwaith creadigol a fydd yn cynorthwyo datblygiad proffesiynol y rheini fydd yn cymryd rhan, bydd yr hwb creadigol yn cefnogi De-orllewin Cymru yn ei gyfanrwydd.

Mae cam cyntaf y prosiect o'r enw Arts Arkade, sy'n seiliedig ar syniad dros dro i wneud y gorau o adeiladau gwag, bellach wedi'i leoli yn hen siop gerddoriaeth Cranes yng nghanol y ddinas.

Mae'r lle hwn wedi'i drawsnewid a'i ddodrefnu ag offer newydd i helpu artistiaid i gydweithio a datblygu eu gwaith ar gyfer llwyfannau digidol a chyhoeddus.

Yn ogystal â'r posibilrwydd o ddatblygu cynnwys newydd ar gyfer cyfleusterau fel croen digidol Arena Abertawe, gallai gwaith yn yr hwb hefyd arwain at gelfweithiau dros dro mewn mannau cyhoeddus a digwyddiadau newydd.

Gallai cynnwys hefyd gael ei greu ar gyfer nifer o sgriniau newydd a nodweddion golau sy'n rhan o'r unedau sy'n cael eu datblygu ar Cupid Way - cyswllt newydd rhwng canol y ddinas ac ardal Bae Copr gan gynnwys y bont newydd dros Oystermouth Road, Arena Abertawe a pharc arfordirol newydd y ddinas.

Bydd camau a lleoliadau prosiect eraill ar gyfer yr hwb creadigol yn dilyn yn y blynyddoedd i ddod, i roi cyfle i artistiaid a phobl ifanc ddod at ei gilydd, rhwydweithio a dysgu sgiliau newydd a all ddarparu gweithgareddau creadigol a diwylliannol yn yr ardal amgylchynol.

Dyfeisiwyd y cysyniad gan dîm Gwasanaethau Diwylliannol y cyngor a Tunde Olatunji, myfyriwr PhD o Ffowndri Gyfrifiadurol Prifysgol Abertawe. Bydd Mr Olatunji yn darparu'r cyfeiriad creadigol fel rhan o raglen ymchwil tair blynedd ar sut mae mannau digidol yn effeithio ar neu'n cefnogi'n cynnig diwylliannol mewn mannau cyhoeddus.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Gyda chynifer o lwyfannau digidol bellach yn cael eu datblygu yng nghanol y ddinas, mae hyn yn creu tapestri digidol gwych i artistiaid lleol, y diwydiannau creadigol Cymreig a'n pobl ifanc.

"Bydd Arts Arkade yn darparu lle ystwyth o ansawdd uchel i'r gymuned dalentog hon lle gallant gydweithio, rhwydweithio, gwella'u sgiliau digidol a chreu, ond bydd hefyd yn galluogi coladu data ac ymchwil ar sut mae cynulleidfaoedd yn ymateb i'n mannau newydd, a chelfweithiau digidol yn y byd yn dilyn COVID.

"Bydd dosbarthiadau meistr ar-lein gan arbenigwyr celf ddigidol ymhlith y gweithgareddau yno, fel rhan o brosiect a fydd yn y pen draw yn arwain at brofiad celf digidol o'r orsaf i'r môr sy'n dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Abertawe orau.

"Bydd Arts Arkade yn ategu ac yn cysylltu â rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau diwylliannol sydd eisoes yn ffynnu yn lleoliadau diwylliannol eraill y cyngor, gan roi cyfle i bobl leol osod Abertawe ar ben blaen  arloesedd celf ddigidol."

Meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, "Rwy'n falch iawn o allu lansio'r hwb creadigol newydd. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu i ysgogi creadigrwydd yn Abertawe a gall ei agosrwydd at yr arena newydd fod o gymorth gyda'r uchelgais hwnnw.

 

"Roedd y prosiect hwn yn un o dri phrosiect peilot Cymru Greadigol sy'n edrych ar sut gall y diwydiannau creadigol gefnogi adfywiad ein canolau trefi. Ceir llawer o enghreifftiau o sut y gall y diwydiannau creadigol ysgogi adfywiad canolau trefi ac rwy'n awyddus iawn i weld sut mae'r prosiect hwn yn sicrhau newid i Abertawe, fel y gallwn rannu gwersi â chanolau trefi eraill ledled Cymru.

 

"Bydd y cyfleuster hwn yn rhoi cyfleoedd i artistiaid lleol a phobl greadigol ymgysylltu â'r gymuned ac ailddychmygu'r lle. Mae hefyd yn wych clywed y bydd y cyfleuster hwn yn cefnogi pobl ifanc ag ystod o alluoedd a phrofiadau i gymryd rhan mewn dysgu creadigol."

Gan gysylltu â rhaglenni diwylliannol yn lleoliadau diwylliannol Cyngor Abertawe fel Canolfan Dylan Thomas ac Oriel Gelf Glynn Vivian, bydd Arts Arkade hefyd yn tynnu ar ffurfiau celf traddodiadol a chyfoes, fel celfyddyd gain, llenyddiaeth a dawns - wedi'u cymysgu â hip hop, celfyddydau stryd a breg-ddawnsio - i gynhyrchu celfweithiau digidol a datblygu proffil cryfach ar gyfer 'Abertawe Greadigol' drwy ddefnyddio apiau, sgriniau, digwyddiadau a lle arddangos traddodiadol.

Mae Arts Arkade yn rhan o gynllun dros dro mwy ar gyfer hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant i greu mwy o fywiogrwydd yno, tra'n disgwyl ei adfywiad tymor hwy.Mae'r cynllun dros dro hefyd yn cynnwys parc dros dro, digon o fannau gwyrdd ac unedau dros dro ar gyfer busnesau bwyd a diod lleol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Mawrth 2022