Toglo gwelededd dewislen symudol

Gŵyl gelfyddydau newydd yn dod i dde Cymru ym mis Hydref

Bydd Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n dod ag artistiaid, perfformwyr, dawnswyr a phobl greadigol byd-enwog i'r digwyddiad yn y ddinas a fydd yn para tridiau

Swansea Arts Weekend

O 4 - 6 Hydref 2024 bydd digwyddiad agoriadol Penwythnos Celfyddydau Abertawe yn trawsnewid y ddinas drwy uno arddangosiadau a pherfformiadau ymdrochol, cerddoriaeth fyw, comedi, dawns a gweithgareddau celf rhyngweithiol. 

Gyda thri phrif ddigwyddiad, bydd y Penwythnos Celfyddydau'n cynnig gweithdai celf, perfformiadau ac arddangosfeydd am ddim ynghyd â digwyddiadau cerdd fyw y bydd angen tocynnau ar eu cyfer i ymwelwyr eu mwynhau.

Mae dau ddigwyddiad newydd am ddim wedi cael eu curadu ar gyfer yr ŵyl: Artistiaid Ydym Oll, a gynhelir ar draws pum oriel yn Abertawe, ac Olympic Fusion, perfformiad dawns ymdrochol ym Mharc yr Amgueddfa yn Abertawe.

Mae Gŵyl Ymylol boblogaidd Abertawe sy'n dathlu cerddoriaeth, comedi a theatr hefyd yn ymuno yn y Penwythnos Celfyddydau, gan greu llwyfan cyffrous i bobl ddawnus ar lawr gwlad berfformio ochr yn ochr ag artistiaid sefydledig mewn lleoliadau adloniant a cherddoriaeth yn Abertawe. Bydd angen tocyn ar gyfer Gŵyl Ymylol Abertawe, ac mae bandiau arddwrn mynediad ar gael am £20.00.

Cynhelir y tri digwyddiad o 4 i 6 Hydref yng nghanol dinas Abertawe, ac mae'r rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gael yma.

Meddai'r Cynghorydd Elliot King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, "Mae'n bleser gennym groesawu artistiaid lleol a rhyngwladol i Abertawe ar gyfer y digwyddiad tri diwrnod, ac rydym yn gobeithio y bydd hwn yn annog mwy o bobl i ddarganfod y cynnig celfyddydau a diwylliant gwych sydd ar gael yn y ddinas.

"P'un a ydych yn rhoi cynnig ar weithdy celf am y tro cyntaf neu'n ymweld ag un o'ch hoff orielau celf yn y ddinas, yn gwylio band newydd neu'n mwynhau perfformiad ymdrochol, mae'r Penwythnos Celf yn cynnig cyfleoedd newydd i chi ymgysylltu â'r celfyddydau a'u mwynhau.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu artistiaid, perfformwyr, ymwelwyr a phreswylwyr Abertawe i'r digwyddiad agoriadol hwn. Ar ôl gweld llwyddiant Gŵyl Ymylol Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf, rydym yn gwybod bod galw mawr am weithgareddau celf a digwyddiadau diwylliannol yn Abertawe. Bydd y Penwythnos Celfyddydau yn cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ymgysylltu ag artistiaid wrth ddathlu cynnig diwylliannol a chelfyddydol ffyniannus Abertawe."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Medi 2024