Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweiniad i fasnachu achlysurol ym Marchnad Abertawe

Yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch am fasnachu achlysurol ym Marchnad Abertawe.

1. Lleoliadau stondinau masnachu achlysurol

Ar hyn o bryd mae un stondin bwrpasol ac un llain bwrdd ar gael i fasnachwyr, ond mae cynlluniau ar y gweill i greu lleoedd masnachu achlysurol addas ychwanegol yn y Farchnad.

  • Mae stondin achlysurol A yng nghanol y farchnad ger y stondin gocos.
  • Mae stondin achlysurol B ger mynedfa'r farchnad oddi ar Stryd Rhydychen.

2. Cyfleusterau'r stondinau masnachu achlysurol 

Stondin Achlysurol A

  • Mae'r stondin yn 3m wrth 3m ac mae'n cynnwys 3 uned fodiwlaidd o 1.6m x 0.8m yr un.
  • Gellir defnyddio'r unedau hyn fel cownteri neu gellir eu cyflunio gyda silffoedd hyd at uchder o 1.4m (gan gynnwys eitemau arddangos).
  • Mae un o'r unedau ar lefel is er mwyn sicrhau hygyrchedd i bawb.
  • Mae'r stondin ar ffurf cynllun agored ac mae ganddi ddwy sinc.
  • Mae uned fach y gellir ei chloi ar gyfer eitemau personol.
  • Mae cyflenwad trydan 16 amp ar gael gyda 4 soced pŵer y gellir eu defnyddio am ffi fach (£2 y dydd). 
  • Anogir masnachwyr i arddangos eu harwyddion eu hunain drwy ddefnyddio'r cyfleuster arwyddion sydd ar gael. 

Casual stall A image 1
 
Casual stall A image 2
 
Casual stall A image 3
 
Casual stall A image 4

Stondin Achlysurol B

  • Darperir bwrdd masnachu sydd oddeutu 1.8m x 1.2m. Er nad yw'n cynnig yr un cyfleusterau â Stondin Achlysurol A, mae'n llain poblogaidd iawn oherwydd ei leoliad a nifer yr ymwelwyr.

Casual stall B

3. Cynhyrchion y gellir eu gwerthu yn y stondinau masnachu achlysurol

Mae Marchnad Abertawe yn cynnig ystod eang o nwyddau a gwasanaethau, felly rydym yn chwilio am fasnachwyr sy'n gallu cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol. 

Dyma rai syniadau ar gyfer busnesau nad ydynt eisoes ar gael yn y farchnad. Nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr ond hoffem glywed eich syniadau!

  • Eitemau crefft pwrpasol (ac eithrio gemwaith)
  • Anrhegion a theganau i blant
  • Gwirodydd, gwinoedd a chyrfau artisan
  • Cludfwyd o safon nad yw eisoes ar gael yn y farchnad
  • Offerynnau cerddorol, finyl, casetiau, CDs etc
  • Nwyddau Cartref
  • Siopau Trin Gwallt/Barbwyr

Mae cwsmeriaid yn cael cyfle i ymlacio a mwynhau eu bwyd/diod cludfwyd yng Ngardd y Farchnad, lleoliad newydd, croesawgar i eistedd yng nghanol y Farchnad.

Os nad ydych yn gyfarwydd â'r stondinau sydd yn y farchnad ar hyn o bryd, cymerwch gip yma: www.swanseaindoormarket.co.uk/stondinaur-farchnad/?lang=cy

Nwyddau/ gwasanaethau wedi'u gwahardd

Ni fydd ceisiadau am nwyddau a gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu cynrychioli'n dda yn y Farchnad neu sy'n gyferbyniol i nodau ac amcanion Cyngor Abertawe'n cael eu derbyn. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i gynnyrch e-sigaréts, gamblo (gan gynnwys gwerthu tocynnau raffl), a chynrychiolwyr cwmnïau sy'n defnyddio strategaethau marchnata niferus fel The Body Shop a Herbalife.

Hyrwyddo busnes

Os ydych chi'n chwilio am lain i hyrwyddo'ch busnes neu sefydliad, mae cynlluniau ar gael yng Nghanol y Ddinas a Gardd y Farchnad. Ffoniwch 01792 633090 am y manylion.

4. Ffi masnachu achlysurol

Y ffi ddyddiol yw £26.50. Os oes angen trydan arnoch, bydd rhaid talu £2 ychwanegol y dydd.

Gellir cadw lle ar gyfer dyddiad hyd at 3 wythnos ymlaen llaw. Rhaid talu cyn i chi ddechrau masnachu.

5. Gwerthiant eitemau bwyd

Os hoffech gynnig bwyd, mae gan Stondin Achlysurol A sinciau er mwyn caniatáu hyn. 

Sylwer y bydd yn rhaid i chi gadarnhau'ch Rhif Cofrestru Busnes Bwyd a'r awdurdod lleol y cofrestrwyd eich busnes gydag ef.  Os nad ydych chi wedi cofrestru fel busnes bwyd eto, gallwch nodi hyn ar y ffurflen gais.

Darperir trydan ond bydd angen i chi ddod â'ch offer eich hun.  Bydd angen tystysgrif PAT (Prawf Dyfeisiau Cludadwy) gyfredol er mwyn defnyddio unrhyw offer ar y stondin. Dylech ystyried masnachwyr a siopwyr o'ch cwmpas felly os ydych chi'n bwriadu coginio ar y safle, bydd angen i chi roi mesurau ar waith i leihau arogleuon cyhyd ag y bo modd.  Neu, efallai bydd yn well gennych baratoi eich bwyd oddi ar y safle a'i weini o'r stondin.

6. Amserau masnachu yn y farchnad

Mae'r farchnad ar agor i gwsmeriaid rhwng 8.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae hefyd ar agor ar ddydd Sul yn ystod cyfnod y Nadolig.

Mae'n agor yn gynharach i fasnachwyr fel bod amser iddynt osod eu stondinau.  Mae'n agor o 6am ar bob diwrnod masnachu ac yn cau am 5.30pm.

7. Cyfleusterau yn y farchnad sydd ar gael i fasnachwyr achlysurol

Gall masnachwyr ddefnyddio'r gilfach lwytho yng nghefn y farchnad. Mae'r gilfach ar gyfer llwytho/dadlwytho yn unig a chaiff ei monitro gan asiant rheoli parcio. Mae arwyddion clir wedi'u gosod fel bod masnachwyr yn ymwybodol o hyn a'r cosbau ariannol cysylltiedig. 

Gellir cyrraedd y gilfach lwytho o Nelson Street. Mae bolardiau awtomatig yno sy'n atal mynediad i gerbydau rhwng 10.30am a 4.00pm felly dim ond y tu allan i'r oriau hynny y gallwch ddefnyddio'r gilfach barcio.

Mae toiledau i gwsmeriaid ar gael yn y farchnad a gall masnachwyr achlysurol ddefnyddio'r rhain hefyd. Mae'r toiledau'n cael eu glanhau drwy gydol y dydd gan swyddog.

Mae Wi-Fi cyhoeddus ar gael felly mae'n hawdd i fasnachwyr gynnig taliadau gyda cherdyn.

Cyflogir swyddog diogelwch i batrolio neuadd y farchnad drwy gydol y dydd ac mae system teledu cylch cyfyng ar waith.

Mae gan Farchnad Abertawe hefyd Oruchwyliwr y Farchnad ar y safle gyda thîm sy'n helpu i gadw'r farchnad yn lân ac yn daclus drwy gydol y dydd. Mae bob amser rhywun ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau.

8. Rheolau gweithredu ar gyfer masnachwyr achlysurol

Fel gyda'r holl drefniadau masnachu yn y farchnad, mae rhai rheolau ar gyfer masnachu achlysurol sy'n hawdd eu dilyn ac er budd pawb.

  • Cyn i'ch cais am stondin gael ei gadarnhau, bydd angen i chi ddarparu copi o'ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sy'n werth £5 miliwn
  • Os ydych yn fusnes bwyd, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod chi wedi cofrestru gyda'ch awdurdod lleol. 
  • Os ydych chi'n cynnig gwerthu alcohol, bydd angen Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro (TEN) arnoch gan Gyngor Abertawe, y gellir gwneud cais ar ei gyfer ar-lein. Mae hyn yn ychwanegol i roi cadarnhad bod gennych Drwydded Bersonol. 
  • Oni bai fod gennych archeb am ddiwrnodau olynol, sicrhewch fod eich holl nwyddau'n cael eu symud ar ddiwedd y diwrnod masnachu. 
  • Os ydych chi'n masnachu am ddiwrnodau olynol, nid oes yn rhaid i chi symud eich nwyddau bob nos, ond sylwer eich bod yn gadael unrhyw beth ar y safle ar eich menter eich hun. 
  • Sicrhewch eich bod yn defnyddio'r cownteri a'r ardal o fewn y stondin yn unig. Ni ddylech osod unrhyw beth yn yr eil. 
  • Byddwch yn wyliadwrus o fasnachwyr gerllaw a chadwch sŵn i lefel resymol e.e. dim radios na defnyddio offer swnllyd fel peiriannau cymysgu am gyfnodau hir. 
  • Rhaid i enw'ch busnes a'ch manylion cyswllt fod yn amlwg ar y stondin ar bob adeg.
  • Rhaid cynnal llinellau golwg i stondinau cyfagos bob amser.  O ganlyniad, ni ddylech arddangos eitemau ar lefel uwch na 1.4m.
  • Pan fyddwch yn gadael y stondin, sicrhewch ei bod yn cael ei glanhau'n drylwyr a'i gadael yn ei chyflwr gwreiddiol.

9. Cydymffurfio ag iechyd a diogelwch

Fel gyda phob stondin, mae'n hanfodol bod masnachwyr achlysurol yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiweddaraf gan gynnwys Safonau Masnach, Diogelwch Tân ac Iechyd a Diogelwch.

Os yw'ch cais yn llwyddiannus, bydd angen i chi gwblhau Rhestr Wirio Iechyd a Diogelwch sy'n cynnwys y canlynol:

  • Er diogelwch, rhaid defnyddio cyllyll ac offer miniog yn briodol a'u storio'n ddiogel pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
  • Cyfrifoldeb pawb yw diogelwch tân yn y farchnad ac mae'n hollbwysig.  Felly:
    • Mae'n rhaid i bob masnachwr ddeall a dilyn Cynllun Gweithredu mewn Argyfwng y Farchnad, sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod driliau tân a sefyllfaoedd argyfwng go iawn. Darperir copi o hwn i chi ar eich diwrnod hyfforddi cyntaf.
    • Ni chaniateir gwresogyddion.
    • Dim ond un cebl estyniad y gellir ei ddefnyddio.
    • Rhaid bod gan bob darn o offer (gan gynnwys y cebl estyniad) dystysgrif PAT gyfredol. 
    • Ni chaniateir cynhwysyddion nwy.
    • Os ydych chi'n coginio ar y safle bydd angen i chi sicrhau bod gennych ddiffoddwyr tân a/neu flancedi tân digonol a phriodol.
    • Ni chaniateir fflamau agored heb oruchwyliaeth.
    • Dylid gosod offer coginio'n ddiogel ar sylfaen anhylosg wedi'i hinswleiddio, a'u hamgylchynu ar dair ochr gan  sgriniau o ddeunydd tebyg.
    • Rhaid cadw unrhyw ddeunydd fflamadwy ymhell oddi wrth ffynonellau tanio.

10. Cymorth marchnata ar gyfer masnachwyr achlysurol

Rydyn ni wir eisiau helpu i wneud eich profiad masnachu ym Marchnad Abertawe yn un llwyddiannus.  Gallwn eich helpu i hyrwyddo'ch stondin ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, y mae dros 1 miliwn* yn ymweld â nhw bob blwyddyn ac mae ganddynt 14,000 o ddilynwyr (Mai 2023). Twitter. (*Chwefror 2021- Chwefror 2022 ).

Mae ymgyrchoedd amlgyfrwng hefyd yn cael eu creu i hyrwyddo Marchnad Abertawe yn ei chyfanrwydd; mae hyn yn cynnwys ar y teledu, radio, sianeli cyfryngau ar-lein ac yn yr awyr agored.

11. Cyngor a chymorth bellach

Mae llawer o wybodaeth ar gael ar-lein i helpu busnesau i lwyddo, gan gynnwys busnesau newydd.

Dyma rai adnoddau a all fod o ddefnydd i chi:

12. Gwneud cais am stondin masnachu achlysurol

Os hoffech wneud cais am stondin masnachu achlysurol, ewch i'n ffurflen ar-lein ffurflen gais ar gyfer masnachu achlysurol a llenwch y manylion.  Dywedwch wrthym gymaint ag y gallwch am eich busnes a'r cynnyrch yr hoffech ei werthu.  Lanlwythwch luniau neu nodwch ddolen i'ch gwefan os oes un gennych.

Bydd eich cais yn cael ei adolygu o fewn 5 niwrnod gwaith a byddwn yn cysylltu â chi. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

Gwybodaeth yn gywir ar Mehefin 2023.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Ebrill 2024