Toglo gwelededd dewislen symudol

Delio ag asbestos yn eich cartref

Gellir dod o hyd i asbestos mewn unrhyw dŷ neu adeilad a adeiladwyd cyn y flwyddyn 2000 oherwydd cyn hynny, câi ei ddefnyddio'n helaeth mewn amrywiaeth o ddeunyddiau adeiladu.

Mae asbestos yn beryglus pan gaiff ffibrau eu rhyddhau. Os yw'r deunyddiau asbestos mewn cyflwr da ac mewn ardal lle na therfir arnyn nhw yna ni ddylent achosi unrhyw niwed. 

Mae deunyddiau asbestos yn cael eu trin fel gwastraff arbennig felly ni ddylid eu gwaredu gyda gwastraff cartref arferol. Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu er mwyn gwaredu asbestos.

Mae gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) (Yn agor ffenestr newydd) yn cynnwys gwybodaeth am beryglon asbestos a sut i ymdrin ag ef, ac mae'n cynnwys gwybodaeth i berchnogion adeiladau, masnachwyr, gweithredwyr trwyddedig ac aelodau'r cyhoedd.

Casglu asbestos o'ch cartref

Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu asbestos bondiog i breswylwyr Abertawe.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Gorffenaf 2021