Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Lansio a Chofrestru Cychod a Badau ym Mhorth Einon

Cynllun cofrestru/lansio ar gyfer pob cwch/bad ag injan ym mae Porth Einon.

Bydd angen i bob bad ag injan sy'n hwylio o Borth Einon fod wedi'i gofrestru a bod ag yswiriant dilys. Bydd mynediad i'r llithrfa'n cael ei reoli gan atalfa a fydd ar glo a bydd allweddi'n cael eu rhoi i'r rhai sydd wedi cofrestru gyda'r cynllun.

Bydd y lôn fynediad a'r lle parcio i gerbydau/trelars yn cael eu rheoli gan swyddog parcio ceir ar y safle rhwng 8.30am a 4.00pm bob dydd. Lle y bo'n berthnasol, rhaid talu am barcio a lansio wrth y peiriant talu ac arddangos ar y safle.

Mae dau opsiwn ar gael i ddefnyddwyr:

1. Clwb Cychod Porth Einon

  • £60 ar gyfer aelodaeth o'r clwb
  • Sy'n cynnwys parcio cerbydau a threlar yn ddiogel ar y safle
  • Ni cheir ffïoedd ychwanegol am lansio
  • Mynediad i'r traeth drwy gât ddiogelwch
  • Gallwch gofrestru jet-sgis (niferoedd cyfyngedig)

2. Cofrestru ymlaen llaw gyda Chyngor Abertawe

  • Un ffi gofrestru o £25 (ad-daliad o £10 wrth ddychwelyd yr allwedd ddiogelwch)
  • Sticeri cofrestru unigryw ar gyfer cychod a threlars
  • £10 ffi lansio bob dydd
  • Defnyddio'r maes parcio cyhoeddus ar gyfer cerbydau a threlars £5 y dydd
  • Mynediad i'r traeth drwy gât ddiogelwch

Gwneud cais i ymuno â'r cynllun

Clwb Cychod Bae Porth Einon - ffurflen gais aelodaeth ar gyfer cwch yn unig (Word doc, 15 KB)
Ffurflen gais cynllun cofrestru/lansio ar gyfer cychod a badau Porth Einon (Word doc, 33 KB)
Rheolau a rheoliadau ar gyfer defnyddio cychod a badau ym Mae Porth Einon (Word doc, 22 KB)

Rhaid cofrestru pob bad/cwch ag injan hyd yn oed os ydynt yn eiddo i'r un person.

Cwblhewch y ffurflen gais berthnasol ar gyfer y cynllun o'ch dewis a'i dychwelyd ynghyd â'r ffi briodol. Mae amser gweinyddu a phrosesu'n amrywio, felly caniatewch 10 niwrnod i dderbyn eich manylion cofrestru a'ch allwedd ddiogelwch cyn ymweld â'r traeth.

Mae Rheolau a Rheoliadau defnyddio'r cychod a'r badau yn berthnasol i'r holl ddefnyddwyr, a thynnir y caniatâd yn ôl os na fyddwch yn cadw at y rheolau.

Ffoniwch: 01792 635973
Drwy'r post: Gosodiadau Chwaraeon, Neuadd y Ddinas, Abertawe, SA1 4PE

Gallwch gysylltu â Chlwb Cychod Porth Einon drwy ffonio 07974 955418 neu e-bostiwch porteynonbayboatclub@gmail.com

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Tachwedd 2024