Toglo gwelededd dewislen symudol

Fforwm LHDTC+ Abertawe

Mae Fforwm LHDTC+ Abertawe yn grŵp partneriaeth a drefnir gan Gyngor Abertawe, sy'n anelu at gynyddu ymgysylltiad â grwpiau LHDTC+, rhannu gwybodaeth a nodi cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.

Mae'r fforwm hefyd yn ceisio mynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb LHDTC+. Mae'r fforwm yn alinio ei waith â Chynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru a Chynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol Cyngor Abertawe.

Mae'r fforwm yn cwrdd bob chwarter ac mae hefyd yn gweithio gyda'i gilydd i nodi digwyddiadau fel Mis Hanes LHDT a Pride Abertawe.

I gael rhagor o wybodaeth am fforwm neu i gyflwyno eitem ar gyfer agenda, e-bostiwch mynediadiwasanaethau@abertawe.gov.uk

Enw
Fforwm LHDTC+ Abertawe
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Gorffenaf 2025