Lleoliad y pontydd a gynhwysir yn y cynllun hwn?
Gallwch gadw lle ar gyfer baneri ar bum pont yn Abertawe.
Cewch ragor o wybodaeth a map lleoliad ar dudalen pob pont.
Pan fyddwch yn fodlon ar y bont yr ydych yn cyflwyno cais amdani, cymerwch gip ar ein calendr trefnu baneri pontydd cyn cadw eich lle.
Trefnu baneri ar bontydd a chalendr Trefnu baneri ar bontydd
Pont Dyfaty
Mae pont Cyffordd Dyfaty'n croesi Dyfatty Street yng nghyffordd brysur Dyfaty ar ddiwedd y Stryd Fawr.
Pont Fabian Way
Mae pont Fabian Way dros A483 Fabian Way o Port Tennant Road ger The Union Inn.
Pont Sgeti
Mae pont Sgeti ar A4118 Gower Road yng nghyffordd De La Beche Road yn Sgeti.
Pont Ysgol yr Olchfa
Mae pont Ysgol yr Olchfa ar A4118 Gower Road ger y fynedfa i Ysgol yr Olchfa.
Pont y Brifysgol
Mae pont y Brifysgol ar A4067 Mumbles Road ger y fynedfa i Gampws Singleton Prifysgol Abertawe.
Addaswyd diwethaf ar 25 Chwefror 2025