Toglo gwelededd dewislen symudol

Dewiswch eich cyrchfan - mae cymaint yn digwydd yn Abertawe dros ŵyl y banc

Mae amrywiaeth eang o hwyl gŵyl y banc ar gael y penwythnos hwn diolch i atyniadau a gweithgareddau Cyngor Abertawe.

singleton park unicorn pedalo

Mae llawer o'r gweithgareddau am ddim neu ar gael am gost isel, gan helpu teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym am i bobl ar draws y ddinas a'r sir gael amser gwych y penwythnos hwn.

"Mae'r atyniadau rydym yn eu cynnal a'u rheoli'n amrywio o draethau tywodlyd, eang i leoliadau diwylliannol o safon, ac o atyniadau awyr agored poblogaidd tu hwnt fel golff gwallgof, i atyniadau am ddim gwych fel Lido Blackpill."

Mae parciau a thraethau a reolir gan y Cyngor yn ddewis gwych ar gyfer picnic os yw'r haul yn tywynnu.

Gallwch reidio pedalo - naill ai un siâp alarch neu ddraig - o gwmpas Llyn Cychod Singleton, neu roi cynnig ar golff gwallgof yng Ngerddi Southend.

Mae gan Lido Blackpill ar lan y môr barc dŵr awyr agored gyda phwll padlo ynghyd â lawntiau a lle chwarae.

Mae Castell Ystumllwynarth yn bwriadu cynnal Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau ddydd Llun(sylwer: 26 Awst) a fydd yn cynnwys cymeriadau lliwgar, cerddoriaeth ac adrodd straeon.

Gall preswylwyr Abertawe sy'n rhan o gynllun Pasbort i Hamdden y Cyngor arbed arian ar atyniadau y telir amdanynt.

Mae gwasanaeth bysus am ddim y Cyngor yn cael ei gynnal tan ddydd Llun(sylwer: 28 Awst).Bob dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun gallwch deithio i unman yn Abertawe am ddim ar y bws.

Mae lleoliadau diwylliannol a llyfrgelloedd uchel eu parch y Cyngor yn parhau i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau am ddim.

Gallwch fwynhau Canolfan Dylan Thomas, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am ddim.

Bydd gemau gardd yn Amgueddfa Abertawe a chyfle i roi cynnig ar lwybr llygod yr Amgueddfa.

Rhagor o wybodaeth: www.joiobaeabertawe.com

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Awst 2024