Toglo gwelededd dewislen symudol

Baw cŵn

Yn anffodus nid yw rhai perchnogion cŵn yn glanhau baw eu cŵn, neu maent yn ei roi mewn bag ac yn gadael y bag ar ôl.

Gallai perchnogion cŵn nad ydynt yn glanhau ar ôl eu cŵn gael hysbysiad o gosb benodol o £75, neu gallent gael eu herlyn a derbyn dirwy o hyd at £1,000. 

Rydym wedi gosod 500 o finiau baw cŵn mewn ardaloedd lle mae pobl yn mynd â'u cŵn am dro'n rheolaidd. Mae'r biniau hyn yn cael eu gwacáu'n rheolaidd. Os nad oes bin baw cŵn neu fin sbwriel i'w weld yn hwylus, mae'n rhaid i chi roi'r baw mewn bag a mynd ag ef adref.

Rhoi gwybod am faw cŵn

Os hoffech roi gwybod am berson anghyfrifol sy'n caniatáu i'w gi faeddu mannau cyhoeddus yn rheolaidd, rhowch eich enw a'ch manylion cyswllt chi a gall un o'n swyddogion ymweld ag aelwyd y person hwnnw.

Adrodd am faw cŵn Adrodd am faw cŵn

Rhoi gwybod am fin baw cŵn sy'n orlawn

Adrodd am fin baw cŵn y mae angen ei wacáu Adrodd am fin baw cŵn y mae angen ei wacáu

Os byddai'n well gennych roi gwybod am broblem dros y ffôn, gallwch ein ffonio ar 01792 635600.

Ar ôl i ni dderbyn eich cwyn, gallwn ymchwilio iddi ac ystyried y ffordd orau o weithredu. Gall hyn gynnwys:

  • glanhau'r baw
  • defnyddio'r tîm glanhau i lanhau'r ardal
  • gosod arwyddion dim baw cŵn yn yr ardal
  • cymryd camau gorfodi yn erbyn perchennog y ci.

Adrodd am faw cŵn

Adroddwch am faw cŵn y mae angen cael gwared arno neu adroddwch am rywun sy'n caniatáu i'w gi faeddu ar y briffordd.

Adrodd am fin baw cŵn y mae angen ei wacáu

Adroddwch am fin baw cŵn nad yw wedi cael ei wacáu.

Cwestiynau cyffredin am faw cŵn

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am faw cŵn.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Awst 2021