Toglo gwelededd dewislen symudol

Dewch i gyflwyno cynnig am gwt ar draeth Langland

Mae Cyngor Abertawe ar fin gwneud un o'r lotrïau blynyddol pwysicaf ar gyfer un o'i hasedau gwerthfawr.

Langland beach huts

Caiff y cytiau traeth Edwardaidd gwyn a gwyrdd amlwg ym Mae Langland eu dyrannu i breswylwyr lwcus ar hap, a bydd hyn yn digwydd ym mis Mawrth eleni.

Gall preswylwyr sy'n byw yn Abertawe gyflwyno cais ar lein yn awr ar gyfer un o'r 57 o gytiau traeth sydd ar gael sy'n rhoi golygfa fendigedig iddynt o un o faeau hardd Gŵyr.

Mae opsiynau rhentu, sy'n dechrau o 1 Ebrill, yn cynnwys cytundebau tenantiaeth tri mis, pedwar mis, chwe mis, deg mis a deuddeg mis.

Mae'r cyfle i wneud cais am y cytiau traeth poblogaidd yn dod i ben ar 29 Ionawr a bob blwyddyn mae cannoedd yn gwneud cynnig amdanynt drwy'r broses tynnu tocyn.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ein cytiau traeth eiconig yn Langland wedi bod yn rhan o'r bae ers degawdau.

"Oherwydd eu bod mor boblogaidd, mae angen i ni gynnal lotri a thynnu tocynnau bob blwyddyn er mwyn sicrhau ein bod yn dyrannu'r cytiau mewn ffordd deg.

"Gall yr ymgeiswyr llwyddiannus ddewis o amrywiaeth o gyfnodau rhentu a byddwn yn rhoi gwybod i'r ymgeiswyr a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio ym mis Mawrth."
Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, "Mae Bae Langland yn boblogaidd iawn ymhlith preswylwyr ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Mae'r buddsoddiad blaenorol i ailadeiladu'r morglawdd a'r ffaith ein bod wedi dynodi'r traeth fel un 'di-fwg' yn rhan o'n hymdrechion parhaus i sicrhau bod y bae'n lle pleserus i ymweld ag ef."

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am gwt traeth yw 29 Ionawr am 12 ganol dydd. https://www.abertawe.gov.uk/cytiaubaelangland

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Ionawr 2025