Gwaith i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan i ddechrau'n gynnar y flwyddyn nesaf
Gallai gwaith ar ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan ddechrau mor gynnar â'r flwyddyn nesaf, dan gynlluniau a ddatgelwyd gan Gyngor Abertawe.

Byddai'r ysgol newydd â lle i 1,400 o ddisgyblion, gan gynnwys chweched dosbarth ar gyfer 200 o ddisgyblion, yn cael ei hadeiladu ar hen safle Ysgol Daniel James yng nghymuned Penderi.
Mae'r cynigion ar gam datblygedig ac, yn amodol ar ganiatâd cynllunio, gallai gwaith i ddymchwel hen Ysgol Gymunedol Daniel James ddechrau'n gynnar yn 2026.
Meddai Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg, "Mae hyn yn newyddion da iawn i ddisgyblion Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan a fydd yn cael ysgol newydd o'r radd flaenaf ar gyfer yr 21ain ganrif.
"Cytunwyd ar y cynigion amlinellol ar gyfer dyfodol ysgol yr Esgob Vaughan y llynedd, fel rhan o'n rhaglen buddsoddi mewn ysgolion uchelgeisiol gwerth £400m i wella adeiladau ysgol a chodi rhai newydd ar draws Abertawe.
Gyda'r rhaglen newydd hon, mae swm y gwariant neu'r arian a glustnodwyd gan Gyngor Abertawe i wella ein hysgolion fel y gall cenedlaethau o'n plant elwa yn y dyfodol yn cyrraedd bron £1bn.
Meddai, "Mae angen buddsoddiad sylweddol ar adeilad presennol Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan ac, yn dilyn trafodaeth â'r ysgol a'r esgobaeth, yr opsiwn a ffefrir yw adeilad newydd ar safle hen Ysgol Daniel James ym Mynydd-bach.
"Rydym yn mynd i'r afael â hyn yn awr a'r cam cyntaf fydd dyfarnu contract ar gyfer dymchwel yr adeiladau ar safle presennol Ysgol Gymunedol Daniel James.
"Mae'r prosiect adeiladu newydd yn parhau i fod ar gamau cynnar iawn dylunio dichonoldeb, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid. Bydd y dyluniad yn darparu amgylchedd ysgol cwbl hygyrch a'i nod yw darparu cyfleuster carbon gweithredol sero-net cynaliadwy gyda phwyslais ar fioamrywiaeth a hyrwyddo lles.
"Mae'r prosiect hefyd yn ceisio darparu amgylchedd sy'n gwella ac yn hyrwyddo defnydd cymunedol presennol, pellach ac ehangach."
Mae'r cynigion diweddaraf ar gyfer yr ysgol newydd yn dal i fod yn destun trafodaethau pellach â Llywodraeth Cymru, Archesgobaeth Caerdydd-Mynyw - sy'n darparu rhwydwaith o ysgolion Catholig - a chymeradwyaeth ffurfiol gan Gabinet Cyngor Abertawe.
Byddai dyluniadau ar gyfer yr ysgol newydd hefyd yn destun caniatâd cynllunio.
Disgwylir i'r cyfnod tendro ar gyfer y cam dymchwel ddechrau cyn bo hir a rhagwelir y bydd y gwaith yn cychwyn ar ddechrau 2026.
Mae rhaglen ehangach gwerth £400m y cyngor ar gyfer ysgolion newydd ac wedi'u huwchraddio'n cynnwys buddsoddiad pellach mewn gwelliannau i ysgolion cynradd ac uwchradd.