Ysgol yn ennill gwobr 'Wales in Bloom' deirgwaith yn olynol
Mae disgyblion balch yn Ysgol Gynradd Cilâ yn dathlu ar ôl ennill prif wobr am ardd gymunedol eu hysgol yng Ngwobrau 'Wales in Bloom' am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Roedd eu gardd liwgar llawn blodau, coed ffrwythau a phlanhigion eraill wedi sicrhau'r safle cyntaf ar y cyd iddynt yng ngwobrau nodedig eleni, sydd â'r nod o arddangos y blodau gorau yng Nghymru.
Mae'r ardd wedi bod yn dirnod cymunedol lleol ers tro ac yn enillydd cystadleuaeth Abertawe yn ei Blodau, ac mae'n cefnogi llawer o feysydd y cwricwlwm ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellir ei addysgu yn yr ystafell ddosbarth yn unig.
Dywedodd pennaeth yr ysgol, Vanessa Taylor fod yr ardd hon, eu difyrrwch pennaf, yn ffrwyth cydweithio rhwng plant yn yr ysgol, staff, rheini a garddwyr Cilâ sy'n rhoi o'u hamser i helpu a chynnig arweiniad.
Meddai, "Mae'n wych ein bod wedi ennill y wobr deirgwaith yn olynol, mae'n gyflawniad eithriadol."