Cynlluniau ar gyfer mwy o dai fforddiadwy i'w rhentu yn cymryd cam mawr ymlaen.
Mae cynlluniau i greu tai newydd mawr eu hangen yn Abertawe yn symud ymlaen.

Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â'r arbenigwyr byd-eang, Building Development Partnership (BDP), i ddatblygu uwchgynllun ar gyfer datblygiad tai newydd yn Brokesby Road yng nghymuned Bôn-y-maen.
Cafodd y weledigaeth tymor hir i greu cartrefi ynni effeithlon newydd ei chyflwyno'n gynharach yn 2023 ac mae'r cyhoedd wedi cael y cyfle i fynegi barn cyn i'r uwchgynllun gael ei ddatblygu.
Bydd y cyngor yn ceisio atgynhyrchu'r rhinweddau cynaliadwy sydd eisoes wedi'u sefydlu mewn lleoliadau eraill ar draws Abertawe lle mae cartrefi cyngor newydd wedi'u creu, gan gynnwys safleoedd yng Ngellifedw, Blaen-y-maes a'r Clâs.
Bydd y datblygiad yn darparu gwell fannau gwyrdd cyhoeddus, sy'n cynnwys ardaloedd chwarae i blant ynghyd â llwybrau teithio llesol sy'n cysylltu'r datblygiad ag ardaloedd cyfagos.
Bydd y broses gynllunio hefyd yn ceisio sicrhau bod pryderon lleol am briffyrdd a mynediad i ysgolion a gwasanaethau iechyd yn cael eu rheoli'n briodol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Brokesby Road, Bôn-y-maen, Abertawe (asbriplanning.co.uk)