Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer tai fforddiadwy mawr eu hangen yn Abertawe

Mae cynlluniau mawr i greu tai newydd a fforddiadwy mawr eu hangen yn Abertawe wedi cymryd cam ymlaen.

brokesby road

Mae cais cynllunio, a gyflwynwyd gan Gyngor Abertawe, bellach wedi'i gymeradwyo i ddatblygu 156 o gartrefi fforddiadwy yng nghymuned Bôn-y-maen.

Mae tîm amlddisgyblaethol o benseiri, penseiri tirwedd a pheirianwyr o BDP, cwmni a chanddo stiwdio yn ne Cymru, yn helpu'r Cyngor i roi'r cynlluniau ar waith.

Caiff y cynllun tai ei ddatblygu mewn pedwar cam ar hyd Brokesby Road, gan ddarparu cymysgedd o gartrefi a fydd yn amrywio o fflatiau ag un ystafell wely, byngalos â dwy ystafell wely, yn ogystal â thai â thair a phedair ystafell wely.

Bydd y Cyngor yn ceisio atgynhyrchu'r priodoleddau cynaliadwy ac ynni effeithlon sydd eisoes wedi'u sefydlu mewn lleoliadau eraill ar draws Abertawe lle mae cartrefi cyngor newydd wedi'u creu, gan gynnwys safleoedd yng Ngellifedw, Blaen-y-maes a'r Clâs.

Bydd y datblygiad yn darparu gwell fannau gwyrdd cyhoeddus, sy'n cynnwys ardaloedd chwarae i blant ynghyd â llwybrau teithio llesol sy'n cysylltu'r datblygiad ag ardaloedd cyfagos.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau,

"Dyma gam mawr ymlaen yn ein nodau i greu mwy o dai fforddiadwy yn y ddinas, gan ychwanegu at ein stoc dai bresennol.

"Mae miloedd o bobl ar ein rhestrau aros, y mae rhai ohonynt mewn perygl o fod yn ddigartref, ac rydym yn ymrwymo i wneud popeth y gallwn i atal hyn rhag digwydd.

"Yn flaenorol, gwnaethom gyflwyno rhai cynlluniau cysyniad cychwynnol ynghylch y datblygiad tai newydd. Cymerodd preswylwyr ran mewn ymgynghoriad cynnar a wnaeth helpu i lunio uwchgynllun manwl.

"Cafodd y safleoedd sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun eu defnyddio o'r blaen ar gyfer tai ac mae'r uwchgynllun yn dangos sut rydym yn bwriadu trawsnewid y tir hwn i greu tai mawr eu hangen ochr yn ochr â chyfleusterau cymunedol, mannau gwyrdd ac ardaloedd chwarae sy'n cefnogi lles a ffyrdd iach o fyw.

"Bydd pob cartref yn ynni effeithlon ac yn defnyddio technolegau newydd arloesol i gadw costau ynni'n isel."

Meddai Nick Ellis, pensaer cyswllt gyda BDP, sydd wedi bod yn gweithio gyda'r cyngor ar y cynigion, "Bydd y gymdogaeth hynod gynaliadwy a charbon isel hon yn darparu cartrefi mawr eu hangen â chostau cynnal isel i bobl ar bob cam mewn bywyd.

"Mae pwyslais mawr ar greu mannau cyhoeddus ac ardaloedd chwarae awyr agored, ynghyd â chynnig y cyfle i gysylltu â byd natur.

"Mae cyfres o erddi glaw ochr yn ochr â gwlyptiroedd ac ardaloedd gwyrdd eraill yn cefnogi bywyd gwyllt yn ogystal â rheoli dŵr glaw, gan helpu i gadw ein dyfrffyrdd yn lân."

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dwsinau o dai cyngor newydd wedi cael eu hadeiladu ar draws y ddinas wrth i'r Cyngor groesawu'r defnydd o dechnolegau newydd er mwyn sicrhau bod y cartrefi ymysg y rhai mwyaf modern yng Nghymru. Mae llawer o'r cartrefi wedi cael eu hadeiladu neu eu goruchwylio gan dîm Gwasanaethau Adeiladu'r Cyngor, gan helpu i ddiogelu swyddi, hyfforddi prentisiaid a chyflawni'r prosiectau'n lleol.

Mae'r Cyngor hefyd wedi newid diben adeiladau roedd yn berchen arnynt eisoes, gan eu troi'n gartrefi mawr eu hangen. Mae gwaith yn parhau ar hen gyfleuster addysg a adwaenir fel Canolfan Sparks, lle mae pedair fflat newydd yn cael eu creu.

Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Mae hwn yn rhan o fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor - addawyd mwy na £55 miliwn ar gyfer tai yn 2024/25 ac rydym wedi ymrwymo i wario £250 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Rhagfyr 2024