Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Plant yn cymeradwyo ardal chwarae newydd

Bydd miloedd o blant mewn cymunedau ar draws Abertawe yn elwa o'r rownd ddiweddaraf o fuddsoddiad yn ardaloedd chwarae'r ddinas.

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed yn uwchraddio mwy na 60 o ardaloedd chwarae cymunedol ar draws y ddinas a bydd ardaloedd chwarae mewn rhagor o gymdogaethau'n cael eu gwella dros y misoedd sy'n dod.

Yr ardal chwarae ddiweddaraf a agorwyd yn swyddogol yw Parc Brynmelyn yn Waun Wen, lle gall plant a phobl ifanc ymuno yn yr hwyl.

Mae'n rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i fuddsoddi mewn ardaloedd chwarae am ddim. Mae'r cyngor wedi cytuno i fuddsoddi £1  filiwn yn ychwanegol mewn ardaloedd chwarae dros y flwyddyn i ddod gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad hyd yn hyn i £8 miliwn.

Ym Mharc Brynmelyn mae'r gwelliannau wedi cael eu dylunio ar gyfer pobl ifanc a phlant.

Mae'r ardal i bobl ifanc bellach yn cynnwys siglen fasged a siglenni sedd wastad, uned aml-chwarae iau gyda nodweddion chwarae uchel ac isel, a charwsél uwchben y ddaear.

Mae'r ardal i blant yn cynnwys uned aml-chwarae i blant, dwy siglen ddwbl gyda sedd anabl, siglen sedd ti a fi a dwy siglen sedd grud, si-so i bedwar person, trampolîn sy'n draenio dŵr a sbringiwr.

Mae eitemau nad ydynt at ddibenion chwarae fel dwy fainc ddur hefyd wedi cael eu hychwanegu er mwyn gwella amwynderau'r parc.

Mae ardaloedd chwarae a uwchraddiwyd yn ddiweddar yn cynnwys Parc Polly yn Foxhole Road, St Thomas, ac ardal chwarae Ravenhill, y mae arwyneb diogel newydd wedi cael ei osod yno.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mai 2025