Ardal chwarae Parc Brynmill yw'r un diweddaraf i agor i bobl ifanc y ddinas
Mae pobl ifanc mewn cymuned ddinesig yn dathlu agoriad swyddogol eu hardal chwarae leol boblogaidd ar ei newydd wedd ym Mharc Brynmill

Mae'r ardal chwarae sy'n ganolbwynt yn y parc poblogaidd yn y ddinas yn hafan i deuluoedd lleol sy'n chwilio am le diogel i'w plant chwarae a dal lan gyda ffrindiau.
Mae'r ardal chwarae yn un o fwy na 50 o gymdogaethau ar draws y ddinas sydd wedi elwa o raglen uwchraddio ardaloedd chwarae gwerth £7m Cyngor Abertawe ac fe'i hagorwyd yn swyddogol gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart.
Mae gan yr ardal chwarae siglenni, rowndabowt hygyrch, rhwyd ddringo siâp pyramid a llawer mwy.