Cyllideb y cyngor yn 'sicrhau adferiad'
Bydd Abertawe'n gweld y buddsoddiad mwyaf erioed mewn gwasanaethau allweddol sy'n effeithio ar fywydau pob dydd preswylwyr.
Fel rhan o gyllideb a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn neithiwr, bydd arian yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion, gofal cymdeithasol, strydoedd, parciau a ffyrdd.
Bydd y gyllideb ar gyfer adferiad y pandemig yn cynnwys cannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad dros y blynyddoedd i ddod mewn tai cyngor, ysgolion newydd, ardaloedd chwarae a gwasanaethau cymunedol hanfodol eraill fel mynd i'r afael â sbwriel a gwasanaethau bysus am ddim.
Bydd teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn gweld costau prydau ysgol yn cael eu rhewi tan o leiaf 2025 a bydd treth y cyngor yn cynyddu 20c yr wythnos yn unig i'r rheini ar raddfa treth y cyngor Band B - sy'n sylweddol is na chwyddiant.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae wedi bod yn ddwy flynedd anodd iawn i bawb oherwydd y pandemig. Ond mae'r gyllideb y cytunwyd arni'n un a fydd yn sicrhau adferiad, yn rhoi hwb i'n cymunedau ac yn helpu i greu gwell Abertawe."
Mae'r prif benderfyniadau'n cynnwys:
· £13.6m ychwanegol ar gyfer addysg yn gyffredinol, sy'n golygu y bydd gan ysgolion dros £179m i'w wario ar addysgu'n pobl ifanc
· £16m ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n golygu bod cyfanswm o £144.7 i'w wario ar y gwasanaethau plant a theuluoedd a gofalu am y diamddiffyn a'r henoed
· Gallai'r Gronfa Adferiad Economaidd gael hwb hyd at £45m
· £570,000 ar gyfer timau glanhau cymunedol newydd ym mhob ardal yn Abertawe, yn ogystal â £100,000 yn rhagor ar gyfer cenhedlaeth newydd o finiau sbwriel 'clyfar' a gosod biniau newydd
· Timau atgyweirio ffyrdd PATCH mwy i gynnal rhagor o welliannau ym mhob ward ledled y ddinas.
· Y cynnig digwyddiadau mwyaf erioed, gan gynnwys atyniadau newydd, i hybu twristiaeth a busnes
· £100,000 ar gyfer toiledau cyhoeddus
· £5m i uwchraddio'r holl ardaloedd chwarae i blant sy'n eiddo i'r cyngor yn Abertawe
· £1m ar gyfer parciau sglefrio a chymorth ieuenctid
· Bydd y cynnig Bysus am Ddim poblogaidd yn parhau ar ddyddiau penodol tan y Nadolig
· Cyllid ar gyfer rhwydwaith o ddiffibrilwyr achub bywyd ledled y ddinas
· Mwy o gefnogaeth i gyn-filwyr a menter hollbwysig Men's Sheds
· Dim ffïoedd am leiniau i glybiau chwaraeon
· Grym gwario o £1.8m y dydd ar wasanaethau hanfodol.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cyngor Abertawe wedi trawsnewid y ffordd y mae'n gweithredu er mwyn bod yma i bobl Abertawe, a'u cefnogi drwy'r pandemig.
"Mae'r gyllideb hon yn golygu y byddwn ni yno o hyd, ochr yn ochr â'n cymunedau wrth i ni ddod allan o'r pandemig gyda'n gilydd."
Yn y blynyddoedd i ddod bydd tua £413m o wariant cyfalaf, gan gynnwys £153m ar genhedlaeth newydd o ysgolion, yn dilyn ymlaen o bedair a agorwyd yn y chwe mis diwethaf.
Bydd y cyngor hefyd yn gwario miliynau o bunnoedd ar adeiladu tai cyngor newydd, adnewyddu tai cyngor presennol a chefnogi'r digartref.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Wrth i ni ddod allan o'r pandemig mae angen ein cefnogaeth ar ein plant a phobl ifanc yn fwy nag erioed o'r blaen. Dyna pam mae prisiau prydau ysgol wedi'u rhewi, mae gwariant ar addysg yn cynyddu a bydd buddsoddiad mewn gwasanaethau plant a theuluoedd yn codi.
Bydd trwyddedau parcio am ddim hefyd ar gyfer staff gofal cartref a gomisiynir ynghyd ag ymrwymiad i isafswm cyflog o £10 yr awr i holl staff y cyngor.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r cyngor wedi cefnogi busnesau gydag £190m o arian grant a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd wedi cefnogi cymunedau drwy'r Gronfa Adferiad Economaidd gwerth £20m. Mae disgwyl i'r gronfa gael hwb o hyd at £45m a bydd yn cael ei thargedu i ddiwallu anghenion y gymuned.
I gydnabod Jiwbilî Platinwm y Frenhines, ni fydd unrhyw ffïoedd cau ffyrdd ar gyfer cymunedau sy'n cynnal partïon stryd ac er mwyn sicrhau etifeddiaeth Abertawe fel Dinas Hyrwyddo Canopi Gwyrdd y Frenhines, bydd miloedd o goed a choed chwip yn cael eu plannu yn ystod y flwyddyn.