Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau sydd o bwys dyddiol i gael rhagor o fuddsoddiad yn y flwyddyn sy'n dod

Mae Cyngor Abertawe yn barod i fuddsoddi degau ar filiynau o bunnoedd yn ychwanegol eleni mewn gwasanaethau hanfodol sy'n cyffwrdd â bywydau preswylwyr y ddinas bob dydd.

swansea from the air1

O ganlyniad i £35m  ychwanegol o gyllid, bydd mwy yn cael ei wario ar ysgolion a gofal cymdeithasol, a bydd gwasanaethau cymunedol yn cael rhagor o gymorth hefyd fel rhan o gynlluniau cyllidebol a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 16 Chwefror.

Bydd y cynigion yn mynd gerbron y cyngor llawn yn awr am benderfyniad terfynol ar 2 Mawrth.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Er gwaethaf pwysau cenedlaethol yr argyfwng costau byw, chwyddiant a'n biliau ynni sy'n codi i'r entrychion, bydd y cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn addysg, gofal a gwasanaethau cymunedol sy'n flaenoriaethau clir i bobl Abertawe yn y flwyddyn i ddod."

Ymysg y cynigon y bydd y cyngor yn eu gweld y mis nesaf mae:

·        £12.4m yn ychwanegol i ysgolion ac addysg, gan olygu y bydd bron £214.5m i'w wario ar gefnogi ein dysgwyr ifanc.

·       £11.6m ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n golygu y caiff bron £157m ei wario ar y gwasanaethau plant a theuluoedd, gofalu am yr henoed a'r sawl sy'n agored i niwed a mynd i'r afael â thlodi.

·       O ganlyniad, bydd oddeutu £1.9m y dydd yn cael ei wario ar wasanaethau i bobl Abertawe.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn amser hynod anodd i bobl ym mhobman. Mae'r argyfwng costau byw, prisiau ynni a chwyddiant sy'n codi i'r entrychion wedi gorfodi aelwydydd i wneud penderfyniadau anodd ynghylch yr hyn y maent yn gwario'u harian arno.

"Nid yw'n wahanol i sefydliadau fel y cyngor - disgwylir i filiau ynni'n unig neidio i bron £15m yn y flwyddyn ariannol sy'n dod."

Dywedodd y Cyng. Stewart fod rheolaeth ariannol gref wedi helpu'r cyngor i ddod drwy stormydd economaidd cenedlaethol fel chwyddiant a chostau ynni cynyddol.

"Mae rheolaeth ariannol gref o ran ein hadnoddau'n golygu y gallwn fuddsoddi £60m eleni wrth reoli arbedion o oddeutu £20m mewn cyllidebau canolog. Mae hyn yn golygu bod buddsoddiad ychwanegol o £35m ar gael i helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. Ar ben hyn, rydym wedi creu cronfa cymorth ynni o £15m i helpu ysgolion, cartrefi gofal a gwasanaethau eraill gyda'u biliau tanwydd."

Amcangyfrifir y bydd yr arbedion a nodwyd gan adrannau'r cyngor yn golygu yr effeithir ar 61 o swyddi, y mae llawer ohonynt eisoes yn wag, ac mae gwaith yn parhau i osgoi colli swyddi'n orfodol lle bo'n bosib.

Dywedodd y Cyng. Stewart y rhagwelir y bydd codiad treth y cyngor Abertawe'r flwyddyn nesaf yn llai na'r cyfartaledd o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ac yn sylweddol llai na chyfradd chwyddiant sydd dros 10% ar hyn o bryd.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023