Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau ar gyfer cyllideb fwyaf erioed y cyngor

Mae cynlluniau i roi degau o filiynau o bunnoedd o gyllid ychwanegol i wasanaethau Cyngor Abertawe sy'n cyffwrdd â bywydau pobl leol bob dydd wedi'u cymeradwyo gan Gabinet yr awdurdod.

swansea from the air1

Bydd £35m o arian ychwanegol yn golygu bod mwy o arian nag erioed o'r blaen yn cael ei wario ar ysgolion a gofal cymdeithasol, a bydd gwasanaethau cymunedol fel glanhau strydoedd a chael gwared ar sbwriel yn cael rhagor o gymorth hefyd.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Bydd y gyllideb yn cynnwys y rownd ariannu unigol fwyaf erioed yng ngwasanaethau'r cyngor yn Abertawe. Bydd yn gyllideb i dorri pob record yn sicr."

Cymeradwyodd y Cabinet adroddiad yn ei gyfarfod ar 17 Chwefror ac mae'n bwriadu gwneud buddsoddiad uwch na chwyddiant yng ngwasanaethau'r cyngor dros y flwyddyn sydd i ddod.Caiff y cynigion eu cyflwyno i'r cyngor llawn ar 3 Mawrth i'w cymeradwyo.

Mae'r buddsoddiad arfaethdig yn cynnwys:

  • £13.6m ychwanegol ar gyfer addysg yn gyffredinol, sy'n golygu y bydd gan ysgolion dros £179m i'w wario ar addysgu'n pobl ifanc
  • £16m ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n golygu bod cyfanswm o £144.7 i'w wario ar y gwasanaethau plant a theuluoedd a gofalu am y diamddiffyn a'r henoed
  • Dros £10m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau diwylliannol a chymunedol, gan gynnwys ffyrdd, casglu sbwriel ac ailgylchu.
  • Pwerau gwario o oddeutu £1.8m y dydd ar gyfer pobl Abertawe

Meddai'r Cyng. Stewart, "Ddwy flynedd yn ôl, ychydig iawn o bobl fyddai wedi gallu rhagweld tryblith y pandemig. Drwy gydol y cyfnod hwnnw mae'r cyngor wedi bod yno i'w breswylwyr, y diamddiffyn, busnesau a'n pobl ifanc.

"Bydd ein buddsoddiad y flwyddyn nesaf mewn gwasanaethau dyddiol hanfodol fel ffyrdd, casglu sbwriel, glanhau strydoedd ac ailgylchu yn parhau i'w cefnogi."

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r cyngor wedi cefnogi busnesau gydag £190m o arian grant a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd wedi cefnogi cymunedau drwy'r Gronfa Adfywio Economaidd gwerth £20m.

Buddsoddwyd arian o'r gronfa yn benodol i ddiwallu anghenion cymunedol. Dros y flwyddyn sydd i ddod, bydd y gwariant arfaethedig ar wella ardaloedd chwarae yn dyblu o £2.5m i £5m, fel bod modd gwella pob safle sy'n eiddo i'r cyngor.

Meddai, "Yng nghyllideb y flwyddyn nesaf bydd lle i roi rhagor o gymorth i ysgolion fel y gall pobl ifanc sydd wedi gweld cymaint o newid a heriau dros y ddwy flynedd ddiwethaf barhau i gael eu cefnogi'n effeithiol gan yr athrawon anhygoel rydym yn ddyledus iawn iddynt.

"Bydd y cynnydd arfaethedig mewn arian gofal cymdeithasol y flwyddyn nesaf yn golygu y bydd buddsoddiad yn cynyddu i lefelau nas gwelwyd erioed o'r blaen, gan gynnwys £1.5m arall ar gyfer y gwasanaethau plant a theuluoedd. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod ein blaenoriaethau'n cyd-fynd â rhai'r gymuned - diogelu pobl ifanc a chefnogi pobl hŷn a diamddiffyn.

"Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi bod yn brin o staff ac yn gweithio dan bwysau sylweddol ers dwy flynedd, a bydd y galw'n parhau i gynyddu wrth i heriau digynsail y pandemig barhau yn 2022 a 2023."

Dywedodd y Cynghorydd Stewart, diolch i reolaeth arian gref er gwaethaf pwysau COVID-19, yr hinsawdd economaidd ansicr a'r galw cynyddol am wasanaethau, na fyddai angen i neb golli swydd yn orfodol eleni.

Bydd ysgolion yn parhau i gael y rhan fwyaf o'r gyllideb, gyda chyfanswm y gyllideb ar eu cyfer yn cyrraedd £202m ar ôl ystyried gwasanaethau addysg canolog hefyd. Bydd cyfran y gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys Tlodi a'i Atal, yn cynyddu i £144.7m.

Bydd £10.3m ychwanegol hefyd ar gyfer gwasanaethau fel gwastraff ac ailgylchu, trafnidiaeth a ffyrdd, y gwasanaethau diwylliannol, llyfrgelloedd a pharciau, gan olygu y caiff £74.8m ei wario ar y gwasanaethau hyn.

Dywedodd y Cyng. Stewart ei fod yn rhagweld y bydd y cynnydd cyfartalog yn nhreth y cyngor y flwyddyn nesaf yn llai nag awdurdodau lleol eraill Cymru ac ychwanegodd: "Mae'r cyfanswm a godir gan dreth y cyngor yn sylweddol is na'r hyn rydym yn ei wario ar addysg a thua'r un faint â'r hyn rydym yn ei wario ar wasanaethau cymdeithasol er mwyn gofalu am ein plant diamddiffyn a'r henoed.

Meddai, "O ganlyniad i setliad cyllidebol cadarnhaol iawn gan Lywodraeth Cymru, mae gennym gyfle i fuddsoddi miliynau o bunnoedd yn rhagor ar flaenoriaethau pobl Abertawe'r flwyddyn nesaf."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Chwefror 2022