Toglo gwelededd dewislen symudol

Dweud eich dweud am gynigion y cyngor ynghylch y gyllideb

Bydd preswylwyr y ddinas yn gallu dweud eu dweud am gynlluniau a fydd yn gweld £30 miliwn yn ychwanegol yn cael ei wario ar wasanaethau'r cyngor yn y flwyddyn ariannol nesaf.

View of Swansea

Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar gynigion cyllidebol Cyngor Abertawe a fydd yn mynd gerbron y cyngor llawn ar gyfer penderfyniad terfynol ym mis Mawrth.

Mae'r cyngor yn gwario £524 miliwn - cyfartaledd o ychydig llai na £5,000 ar bob aelwyd - yn y ddinas bob blwyddyn yn cefnogi ein cymunedau, darparu ystod o wasanaethau sy'n amrywio o ofal cymdeithasol ac addysg i barciau, llyfrgelloedd, casgliadau ailgylchu a chynnal digwyddiadau mawr fel Gorymdaith y Nadolig a Sioe Awyr Cymru.

Nawr gofynnir i'r cyhoedd am eu barn ar nifer o gynigion cyllidebol sy'n cynnwys cyflwyno ap Preswylwyr, gostyngiadau i breswylwyr ar gyfer gwasanaethau fel parcio ceir a newid ffïoedd a thaliadau.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ein pryderon ac yn darparu cynnydd gwerth 7% o ran cyllideb, mae'n doriad mewn termau go iawn oherwydd mae chwyddiant yn uwch na 10%.

"Bydd gennym £30m yn ychwanegol i'w wario ond mae ein costau ynni yn unig yn cynyddu 300% i £20m y flwyddyn, ac mae hynny ar ben llawer o bwysau ariannol eraill rydym yn eu hwynebu fel galw cynyddol am ein cymorth oherwydd yr argyfwng costau byw.

"Bydd y cyngor yn parhau i fod yno i bobl Abertawe'r flwyddyn nesaf a byddwn yn parhau i ddarparu ar gyfer eich blaenoriaethau. Ni wnaed unrhyw benderfyniadau ar ein cynigion cyllidebol eto. Rydym am i bobl ddweud eu dweud a byddwn yn ystyried eu barn cyn i'r cyngor wneud ei benderfyniad terfynol ym mis Mawrth."

Meddai, "Eleni mae ein cynigion cyllidebol yn seiliedig ar ddarparu mwy gyda llai, yn ogystal â rheolaeth ariannol bwyllog a gwneud y mwyaf o dechnoleg i leihau ein costau a chefnogi gwasanaethau.

"Rhan o'r ymagwedd honno yw cyflwyno ap Preswylwyr sydd ar gael i bobl sy'n byw yn Abertawe yn unig a fydd yn caniatáu i bobl ennill gostyngiadau a buddion eraill mewn siopau yng nghanol y ddinas i ddechrau.

"Y nod dros amser yw datblygu'r ap i fod yn wasanaeth sy'n galluogi preswylwyr i gael gostyngiadau ar gynigion y cyngor a gwasanaethau na fyddant ar gael i bobl sy'n byw y tu allan i'r ddinas."

Mae cynigion cyllidebol eleni hefyd yn cynnwys gostyngiad ar ffïoedd parcio ceir ar gyfer preswylwyr mewn rhai meysydd parcio a weithredir gan y cyngor. Bydd y gostyngiad yn ffurfio pecyn o newidiadau i ffïoedd  parcio ceir a fydd yn cynnwys y gwasanaeth yn dechrau talu ei ffordd unwaith eto ar ôl 18 mis o gymorthdaliadau ar ôl y pandemig. 

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'r meysydd parcio yn Abertawe a weithredir gan y cyngor wedi bod yn cynnig rhai o'r prisiau rhataf yng Nghymru. Does dim llawer o ddinasoedd yng Nghymru neu'r DU lle gallwch barcio drwy'r dydd yng nghanol y ddinas o 9.30am am £2 yn unig a defnyddio gwasanaeth Parcio a Theithio ar gyfer car a'r holl deithwyr am £1.

"Ers y pandemig, rydym yn fwriadol wedi cadw prisiau i lawr i gefnogi busnesau, swyddi a siopwyr ac yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig mae hynny wedi costio £2.1m i'r cyngor.

"Nid ydym wedi codi ffïoedd parcio ceir yn Abertawe am bron i ddegawd, a phe baem wedi gwneud hynny, byddent 22.5% yn uwch erbyn hyn."

Ar gyfartaledd, mae'r cyngor yn gwario ychydig llai na £5,000 y flwyddyn ar bob aelwyd yn Abertawe. Cynhyrchodd Treth y Cyngor £135 miliwn y llynedd, ond dim ond digon i dalu am y gwasanaethau cymdeithasol yn unig yw hynny. Mae'r rhan fwyaf o'r arian y mae'r cyngor yn ei wario - £386 miliwn - yn dod o grantiau Llywodraeth Cymru.

Ymysg y cynigion yr ymgynghorir arnynt mae newidiadau i ffïoedd a thaliadau penodol sy'n seiliedig ar y syniad y dylent gynyddu yn unol â chwyddiant neu dalu am gost darparu'r gwasanaeth.

Mae hefyd cynigion ar gyfer nifer fach o newidiadau ym meysydd gwastraff, parciau a glanhau a phriffyrdd a thrafnidiaeth yn ogystal ag adolygiad o dariffau parcio ceir sy'n ceisio gweld cynnydd cyffredinol mewn incwm ar gyfer y cyngor gwerth 12.5%.

I ddweud eich dweud ar y cynigion cyllidebol, ewch i'r ddolen hon https://www.abertawe.gov.uk/arolwgygyllideb  

Dyddiad cau: 11.59pm, 31 Ionawr 2023

 

 

 

 

Close Dewis iaith