Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i ddweud eich dweud am gynigion y Cyngor ynghylch y gyllideb

Bydd preswylwyr y ddinas yn cael dweud eu dweud am gynlluniau a fydd yn golygu bod tua £2.2 y dydd yn cael ei wario ar wasanaethau'r Cyngor dros y flwyddyn i ddod.

arena from the air

Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar gynigion cyllidebol Cyngor Abertawe a fydd yn mynd gerbron y Cyngor llawn ar gyfer penderfyniad terfynol ym mis Mawrth.

Mae Abertawe wedi derbyn cynnydd arwyddol ar ei gyllideb ar gyfer 2025/26 gan Lywodraeth Cymru o oddeutu £21.2m neu 4.7% a fydd yn helpu'r Cyngor i gefnogi preswylwyr drwy'r amserau anodd o'n blaenau.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd y Cyngor yn parhau i fod yno i bobl Abertawe'r flwyddyn nesaf a byddwn yn parhau i gyflawni eu blaenoriaethau.

"O ganlyniad i reolaeth ariannol gall, mae Abertawe mewn sefyllfa gymharol gref sy'n golygu y byddwn yn gallu parhau i sefyll ochr yn ochr â phobl Abertawe i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw a heriau mawr eraill nad ni sy'n gyfrifol amdanynt, yn y flwyddyn sy'n dod."

Dywedodd er y croesewir yr arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â'r help ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer 2024/25, nid yw'n ddigon i wrthbwyso'r pwysau ariannol gwerth £68m a wynebir gan y Cyngor yn y flwyddyn ariannol sy'n dod.

Meddai, "Byddai ein cyllideb arfaethedig ar gyfer y flwyddyn sy'n dod yn sicrhau y bydd mwy o arian nag erioed o'r blaen, sef £226m, yn cael ei wario ar wasanaethau addysg - buddsoddiad yn nyfodol ein plant a fydd yn cael effaith barhaus ar gyfer teuluoedd ar draws y ddinas."

Ymysg y cynigion yr ymgynghorir arnynt mae newidiadau i rai ffioedd a thaliadau sy'n seiliedig ar y syniad y dylent gynyddu'n unol â chwyddiant neu dalu am gost darparu'r gwasanaeth.

I ddweud eich dweud am y cynigion cyllidebol, ewch i'r ddolen hon.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw ganol nos ar 16 Chwefror.

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Ionawr 2025