Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor i fuddsoddi £1.9m y dydd mewn gwasanaethau y flwyddyn nesaf

Disgwylir i Gyngor Abertawe fuddsoddi miliynau o bunnoedd yn rhagor mewn gwasanaethau fel addysg, gofal a gwasanaethau cymunedol y mae'r cyngor yn eu darparu bob dydd i gefnogi'n preswylwyr drwy'r argyfwng costau byw. Mae hyn er gwaetha'r ffaith bod y cyngor yn wynebu pwysau ynni a chwyddiant anferth gwerth cyfanswm o £44m.

Swansea at night

Disgwylir i Abertawe gael tua £30m o gyllid gan Lywodraeth Cymru'r flwyddyn nesaf a fydd yn helpu i gynnal gwasanaethau.

Ond daw'r newyddion gyda rhybudd - er bod cyllid yn codi tua 7% y flwyddyn nesaf, mae hyn yn is na chwyddiant ac yn cynrychioli toriad mewn cyllid. Felly bydd angen gwneud penderfyniadau anodd o hyd wrth i'r cyngor geisio ymdopi â chostau ynni cynyddol sy'n codi dros 300%.

Ac er bod Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, wedi croesawu'r hwb gan Lywodraeth Cymru, rhybuddiodd y bydd disgwyliadau cyllid is na chwyddiant ar gyfer cynghorau fel Abertawe yn y dyfodol yn rhoi pwysau ychwanegol ar swyddi a gwasanaethau.

Meddai, "Mae'r setliad ariannol gwell na'r disgwyl ar gyfer eleni'n dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ein pryderon ac yn cydnabod nad ein bai ni yw'r heriau ariannol sy'n ein hwynebu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu at yr arian a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU, sydd i'w groesawu'n fawr. 

"Ond mae chwyddiant uwch nag erioed a'r argyfwng costau byw yn golygu y bydd Abertawe, fel pob cyngor arall ar draws y DU, yn wynebu dewisiadau anodd yn y blynyddoedd i ddod."

Dywedodd y Cynghorydd Stewart, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac yn ystod y pandemig fod y cyngor wedi mabwysiadu ymagwedd ochelgar at reolaeth ariannol a oedd wedi diogelu swyddi a gwasanaethau a chaniatáu i'r cyngor gynyddu'i gronfeydd wrth gefn. Mae hyn wedi helpu i leddfu'r ergydion economaidd a brofwyd dros yr ychydig fisoedd diwethaf a bydd o gymorth y flwyddyn nesaf hefyd.

Ond ychwanegodd, "Er bod y setliad ariannol yn well na'r disgwyl, mae chwyddiant a chostau ynni digynsail yn golygu bod angen i ni wneud arbedion o £25m yn y flwyddyn i ddod i helpu i leddfu'r heriau ariannol cenedlaethol hynod anodd sydd wedi datblygu dros y chwe mis diwethaf, y mae pob un ohonynt y tu hwnt i reolaeth y cyngor.

"Y flwyddyn nesaf rydym yn disgwyl gweld ein costau ynni'n unig yn codi 300% i £20m, a dyna pam mae cynigion y gyllideb yn cynnwys cronfa prisiau ynni i helpu ysgolion, ein cartrefi gofal cymdeithasol, cyfleusterau cymunedol a'n partneriaid gwasanaethau hamdden i reoli'r heriau y byddant yn eu hwynebu. Rydym hefyd yn cynllunio mesurau eraill a fydd yn helpu i ddiogelu cyllidebau ysgolion a gofal cymdeithasol."

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf ni fu unrhyw ddiswyddiadau gorfodol yn y cyngor. Fodd bynnag, gan fod tua 45% o gostau cyffredinol y cyngor yn ymwneud â gweithwyr, rhagwelir y bydd hyd at 68 o swyddi mewn perygl y tro hwn, y mae rhai ohonynt eisoes yn wag. Wrth i broses y gyllideb ddatblygu ac wrth i drafodaethau gael eu cynnal ag undebau llafur, disgwylir y bydd y ffigur yn gostwng drwy fentrau fel cyfraddau ymadael naturiol a diswyddiadau gwirfoddol.

Disgwylir i Gabinet y cyngor weld yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft yn ei gyfarfod ar 22 Rhagfyr. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn ac ystyrir adborth gan y Cabinet ym mis Chwefror cyn i'r gyllideb derfynol gael ei chyflwyno i'r Cyngor Llawn ar ddechrau mis Mawrth.