Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid y cyngor ar y trywydd iawn o hyd er gwaethaf y pwysau ar wasanaethau

Dywedwyd wrth Gabinet Cyngor Abertawe fod arbedion arfaethedig a rheoli adnoddau'n gall yn golygu y bydd y cyngor yn parhau â'i ymdrechion presennol ac yn byw o fewn ei fodd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

new play area

Mae hyn er gwaethaf pwysau chwyddiant cynyddol, costau ynni a phwysau ar wasanaethau.

Mae Cyngor Abertawe yn buddsoddi tua £1.9m y dydd ar gyfartaledd i ddarparu gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol sy'n cefnogi preswylwyr drwy'r argyfwng costau byw.

Ac meddai'r Arweinydd, Rob Stewart, er gwaethaf pwysau ariannol nad y cyngor sydd ar fai amdanynt, mae'n gwneud cynnydd wrth gyflawni ei ymrwymiadau i breswylwyr.

Mae adroddiad chwarter cyntaf y gyllideb a gyflwynwyd i'r Cabinet yn nodi tua £13.4m o bwysau gwario ychwanegol. Mae'n argymell y dylid defnyddio cronfeydd a roddwyd o'r neilltu i reoli chwyddiant a chostau ynni yn ogystal â lleihau gwariant a chostau a defnyddio arian wrth gefn.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Er yr heriau rydym oll yn eu hwynebu, rydym yn benderfynol o barhau i ddarparu'r gwasanaethau rheng flaen y mae ar bobl Abertawe eu heisiau."

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Hydref 2023