Toglo gwelededd dewislen symudol

Y buddsoddiad mwyaf erioed yn yr arfaeth ar gyfer ein cymunedau

Disgwylir i Gyngor Abertawe fuddsoddi'r swm uchaf erioed mewn cymunedau lleol, gofal cymdeithasol ac addysg y flwyddyn nesaf fel rhan o gynigion cyllidebol i'w hystyried gan y Cabinet yr wythnos nesaf.

swansea from the air1

Mae'r adroddiad yn amlygu sut mae'r cyngor wedi cefnogi preswylwyr, busnesau a chymunedau drwy ddwy flynedd o'r pandemig ac mae bellach yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Bydd y cyllid ychwanegol sef £35m yn golygu y caiff y symiau mwyaf erioed eu gwario ar ysgolion a gofal cymdeithasol, a bydd gwasanaethau cymunedol fel glanhau strydoedd a chasglu sbwriel yn cael cymorth ychwanegol hefyd.

Ymysg y penawdau yn y gyllideb, gofynnir i'r Cabinet gytuno ar fuddsoddiad mewn gwasanaethau sy'n uwch na chwyddiant ar draws y cyngor.

  • £13m ychwanegol ar gyfer addysg yn gyffredinol, gan olygu y bydd gan ysgolion fwy na £179m i'w wario ar addysgu'n pobl ifanc.
  • £16.0m yn fwy ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n golygu gwariant cyffredinol o £144.7m ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a gofalu am y diamddiffyn a'r henoed.
  • Mwy na £10m yn fwy ar gyfer gwasanaethau diwylliannol a chymunedol, gan gynnwys ffyrdd, sbwriel ac ailgylchu.
  • Pwerau gwario o oddeutu £1.8m y dydd ar gyfer pobl Abertawe

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Ddwy flynedd yn ôl, ychydig iawn ohonom allai fod wedi rhagweld tryblith anhygoel y pandemig. Drwy gydol yr adeg honno, mae'r cyngor wedi bod yno ar gyfer ein preswylwyr, y diamddiffyn, busnesau a'n pobl ifanc.

"Er gwaethaf amhariad y pandemig, bydd yr arena newydd ar gyfer y ddinas yn agor ym mis Mawrth. Nid tirnod yn unig ydyw i bobl Abertawe, bydd yn cynhyrchu miliynau ar gyfer economi'r ddinas gan greu a diogelu swyddi.

Meddai, "Yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, bydd lle am fwy o gefnogaeth i ysgolion fel y bydd pobl ifanc sydd wedi profi cymaint o newid a her dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn parhau i gael eu cefnogi'n effeithiol gan yr athrawon rhagorol rydym yn ddyledus iddynt.

"Bydd buddsoddiad yn codi i lefelau nas gwelwyd o'r blaen yn sgîl cynnydd arfaethedig y flwyddyn nesaf mewn cyllid gofal cymdeithasol. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod ein blaenoriaethau yn y mannau y mae ein cymunedau am iddynt fod - diogelu pobl ifanc a chefnogi pobl ddiamddiffyn ac hŷn."

Dywedodd y Cynghorydd Stewart, diolch i reolaeth arian gref ac er gwaethaf pwysau COVID-19, chwyddiant cynyddol a'r galw cynyddol am wasanaethau, na fyddai angen i neb golli swydd yn orfodol eleni.

Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn rhagweld cynnydd cyffredinol o oddeutu £65m mewn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru dros y 4 blynedd nesaf.

Bydd £10.3m ychwanegol hefyd yn cael ei glustnodi ar gyfer gwasanaethau fel gwastraff ac ailgylchu, ffyrdd a thrafnidiaeth, gwasanaethau diwylliannol, llyfrgelloedd a pharciau, gan olygu y caiff £74.8m ei wario ar y gwasanaethau hyn.

Os cymeradwyir yr adroddiad i'r Cabinet, caiff yr argymhellion eu hystyried gan gyfarfod y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Chwefror 2022