Y cyngor yn gwneud cynnydd da ar gydbwyso'r gyllideb
Yr wythnos nesaf, bydd y Cabinet yn clywed bod chwyddiant, costau ynni cynyddol a mwy o alw am wasanaethau ar gyfer pobl sy'n agored i niwed yn rhoi pwysau ar gyllid Cyngor Abertawe.
Er yr heriau, dywedir wrth Aelodau fod arbedion arfaethedig a rheoli adnoddau'n gall yn golygu y bydd y cyngor yn parhau â'i ymdrechion presennol ac yn byw o fewn ei fodd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Mae Cyngor Abertawe yn buddsoddi tua £1.9m y dydd ar gyfartaledd i ddarparu gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol sy'n cefnogi preswylwyr drwy'r argyfwng costau byw.
Mae adroddiad chwarter cyntaf y gyllideb a gyflwynwyd i'r
Cabinet yn nodi tua £13.4m o bwysau gwario ychwanegol. Mae'n argymell y dylid defnyddio cronfeydd a roddwyd o'r neilltu i reoli chwyddiant a chostau ynni yn ogystal â lleihau gwariant a chostau a defnyddio arian wrth gefn.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Rydym eisoes wedi ymateb drwy edrych ar ffyrdd o leihau ein costau ac maent yn cael eu rhoi ar waith. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac yn ystod y pandemig roedd y cyngor wedi cymryd ymagwedd ochelgar at reolaeth ariannol a oedd wedi diogelu swyddi a gwasanaethau a chaniatáu iddo ychwanegu at ei gronfeydd wrth gefn."
"Er yr heriau rydym oll yn eu hwynebu, rydym yn benderfynol o barhau i ddarparu'r gwasanaethau rheng flaen y mae ar bobl Abertawe eu heisiau."