Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Pam dylai fy musnes ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae gennym yr arbenigedd i'ch helpu i datblygu'ch busnes. Mae ein Gwasanaeth Rheoleiddio Busnes yn cynnig cyswllt uniongyrchol ag arbenigwyr busnesau.

Mae ein gwasanaethau ar gael ar hyn o bryd ar gyfer:

  • Diogelwch Bwyd
  • Safonau Masnach

Trwy gysylltu â'r arbenigwyr yn uniongyrchol drwy'r gwasanaeth hwn, bydd yn haws i chi gael y cyngor a'r arweiniad angenrheidiol, yn ogystal â help gyda'r trwyddedau a'r caniatadau y mae eu hangen, a bydd yr holl broses yn gynt. Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfeirio am ddim a gallwn gynnig gwasanaethau rheoleiddio busnes am eu cost. Mae'r gwasanaethau a gynigir yn addas ar gyfer pob math o fusnesau gan gynnwys busnesau cyn iddynt gychwyn, busnesau newydd a rhai sefydledig.

Codir tâl o £72 yr awr (gan gynnwys TAW ac ar sail adfer y gost) gyda lleiafswm o ddwy awr. Caiff y tâl ei brosesu trwy daliad ar-lein ar adeg yr ymholiad. Caiff eich ffurflen ymholiadau ar-lein a chadarnhad o'r taliad a wnaethoch ar-lein, eu hanfon at yr arbenigwyr yn uniongyrchol a fydd wedyn yn gallu cysylltu â chi i drafod eich ymholiadau.

Bydd cyngor Safonau Masnach yn cynnwys;

  • contractau defnyddwyr
  • cyngor ar hyrwyddo gwerthiant
  • sut gall busnesau gydymffurfio'n gyffredinol â chyfraith defnyddwyr
  • hawliau defnyddwyr/polisïau dychwelyd
  • labelu'ch cynnyrch bwyd neu gynnyrch heblaw bwyd
  • gofynion diogelwch penodol ar gyfer cynnyrch.

Bydd cyngor hylendid bwyd yn cynnwys;

  • Strwythur, cynllun a chyfleusterau'r fangre
  • Systemau rheoli diogelwch bwyd/HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol) h.y. y gwaith papur y mae ei angen i gydymffurfio
  • Hyfforddiant Hylendid Bwyd
  • Y cynllun sgôr hylendid bwyd - gan gynnwys y gofynion cyffredinol i'w bodloni er mwyn ennill sgôr uchel
  • Cyngor ar arferion diogelwch bwyd (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gyngor ar ofynion tymheredd ac awgrymiadau ar gyfer y busnes i gynorthwyo wrth fodloni canllawiau i reoli risg croeshalogi e-coli, lle bo'n berthnasol).

Bydd cyngor safonau bwyd yn cynnwys;

  • Cyngor ar labelu
  • Cyngor ar alergenau
  • Cyngor ar borthiant anifeiliaid