Toglo gwelededd dewislen symudol

Llochesi bysus newydd yn cael eu gosod o hyd

Mae 40 o lochesi bysus newydd eisoes wedi cael eu gosod ar safleoedd bysus yn Abertawe, a bydd rhagor yn cael eu gosod dros yr wythnosau i ddod.

Passengers getting on bus at Castle Square

Passengers getting on bus at Castle Square

Cyflwynodd Cyngor Abertawe gontract i'w dendro y llynedd ac mae contractwr newydd yn y broses o ddisodli'r 112 o lochesi yn y ddinas, sy'n cynnwys paneli hysbysebu wedi'u goleuo.

Caiff pob lloches sy'n cael ei symud ei disodli, ond efallai y bydd ychydig o oedi rhwng symud yr hen loches a gosod lloches newydd.

Bydd y contractwr newydd yn gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw parhaus ac am lanweithdra'r llochesi newydd, ac ni fydd y cyngor yn talu am unrhyw ran o'r prosiect.

Meddai Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant, "Hoffwn sicrhau teithwyr y bydd llochesi newydd yn cael eu gosod yn lle unrhyw hen lochesi sy'n cael eu symud.

"Rydym yn trafod â'r cyflenwr blaenorol a'r cyflenwr newydd i geisio sicrhau y caiff hyn ei wneud cyn gynted â phosib, ond mewn rhai achosion bydd ychydig o oedi.

"Unwaith y bydd y llochesi newydd wedi'u gosod, gobeithiwn y bydd teithwyr yn sylwi ar y gwelliant."