Ad-drefniant bach yng Nghabinet Cyngor Abertawe
Disgwylir i ddau gynghorydd gael eu penodi i Gabinet Cyngor Abertawe yn yr ail swydd a rennir o'r fath yn yr awdurdod.
Bydd y Cynghorwyr Rebecca Fogarty ac Andrew Williams yn rhannu'r swydd newydd dros y Gwasanaethau Corfforaethol fel rhan o drefniadau ad-drefniant bach Cabinet y cyngor.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, fod hyn yn dilyn cyhoeddiad bod Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, yn cymryd absenoldeb dros dro oherwydd salwch.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Rydyn ni gyd am ddymuno gwellhad buan i'r Cyng. Francis-Davies yn ystod ei absenoldeb dros dro.
"Yn y cyfamser, hoffwn groesawu'r Cyng. Fogarty a'r Cyng. Williams i'w rolau newydd. Trwy gyflwyno ail swydd a rennir, rydym yn croesawu ffyrdd newydd o weithio sy'n cefnogi Aelodau'r Cabinet ac yn sicrhau ein bod yn aros yn wydn ac yn gallu ymateb i anghenion ein preswylwyr.
"Dyma'r ail swydd a rennir yn y Cabinet, sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i arweinyddiaeth hyblyg a llywodraethu cynhwysol. Y swydd gyntaf a rennir rhwng y Cynghorwyr Cyril Anderson a Hayley Gwilliam yw goruchwylio Gwasanaethau a Chefnogaeth Gymunedol, ac mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd diwethaf."
Yn ei swydd newydd, bydd y Cyng. Fogarty'n goruchwylio maeryddiaeth, swyddogaethau dinesig a gwasanaethau masnachol, ymhlith dyletswyddau eraill. Bydd y Cyng. Williams yn edrych ar berfformiad y cyngor, gan gynnwys cynllunio, diogelu'r cyhoedd, monitro perfformiad, gwasanaethau cwsmeriaid a thrwyddedu.
Bydd y Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Gyflawni, yn cymryd cyfrifoldeb am barciau, datblygu chwaraeon a mewnfuddsoddiad ynghyd â'i bortffolio presennol sy'n cynnwys iechyd a diogelwch a rheoli adeiladau.
Bydd y Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyng. Andrea Williams, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, bellach yn gyfrifol am fewnfuddsoddi preswyl a chyflenwi tai strategol yn ogystal â'i rôl bresennol.
Bydd yr ad-drefniant bach hefyd yn golygu y bydd y Cyng. Stewart yn gweithio gyda'r Cyng. Hopkins a'r Cyng. Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb mewn meysydd fel twristiaeth ac adfywio, sef gweithgareddau a oruchwyliwyd yn flaenorol gan y Cyng. Francis-Davies.
Bydd y Cyng. Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, yn cymryd cyfrifoldeb am isadeiledd cerbydau trydan a datblygu chwaraeon ac yn gweithio gyda'r Arweinydd a'r Cyng. Hopkins ym meysydd adfywio cymunedol a chanolfannau maestrefol.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae Cyngor Abertawe bob amser yma i bobl ein dinas. Rydym wedi ad-drefnu'r Cabinet ac wedi croesawu dau aelod newydd i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar flaenoriaethu ein preswylwyr, gan ddarparu'r gwasanaethau sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd."