Addewid i wario £530m ar ffyrdd, ysgolion a chymunedau
Mae ysgolion newydd, gwelliannau i ffyrdd a chyfleusterau chwaraeon, canol y ddinas a threftadaeth ein cymuned yn rhan o addewid gan Gyngor Abertawe i fuddsoddi £530m yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Mae cyllid gwerth miliynau o bunnoedd wedi cael ei neilltuo i helpu i atgyweirio ffyrdd a llenwi tyllau mewn ffyrdd dan gynlluniau cyllideb gyfalaf y cyngor am y 12 mis nesaf.
Ar ben hynny, clustnodwyd bron £300m ar gyfer cenhedlaeth newydd o welliannau i ysgolion yn ogystal ag ysgol arbennig newydd arloesol i ddisodli YGG Crug Glas ac Ysgol Pen-y-Bryn.
Yng nghanol y ddinas, bydd gwaith hirddisgwyledig yn dechrau yn ystod y misoedd nesaf i droi Gerddi Sgwâr y Castell yn dirnod cymunedol gwyrdd, modern.
A neilltuwyd £18m yn ystod y 12 mis nesaf i barhau ag ymrwymiad y cyngor i ddiogelu a gwella treftadaeth ein dinas yng Ngwaith Copr yr Hafod-Morfa.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Bydd ein buddsoddiad, ochr yn ochr â chyllid gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac eraill, yn wirioneddol drawsnewidiol.
"Bydd yn newid bywydau pobl ifanc, yn hybu ein heconomi, ac yn creu ac yn diogelu swyddi wrth sicrhau yr ymdrinnir â'r materion bara menyn sy'n bwysig i bobl Abertawe hefyd.
"Ochr yn ochr â'n hymrwymiad i'r eitemau mawr sy'n hanfodol i hybu dyfodol ein dinas, rydym hefyd yn gwneud yn siŵr y byddwn yn parhau i atgyweirio ein ffyrdd a llenwi tyllau yn ein ffyrdd wrth i ni wario miliynau o bunnoedd yn fwy yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
"Mae mwy o arian yn cael ei fuddsoddi hefyd yn ein rhaglen gwella meysydd chwarae hynod lwyddiannus, yn ogystal â chyfleusterau chwaraeon cymunedol a mentrau eraill."
Mae'r canlynol ymysg y prosiectau y mae'r adroddiad am y gyllideb gyfalaf i'r Cabinet yn tynnu sylw atynt:
- Oddeutu £7m ar gyfer gwelliannau ychwanegol i briffyrdd, yn ogystal â mwy o gyllid i ddod gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf
- £1m i gwblhau hwb cymunedol Y Storfa yng nghanol y ddinas yn nes ymlaen eleni.
- £8.8m dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer Gerddi Sgwâr y Castell
- Swm cychwynnol gwerth £2.5m tuag at ysgol newydd gwerth £51m ar gyfer YGG Crug Glas ac Ysgol Pen-y-Bryn
- £18.2m ar gyfer prosiectau treftadaeth yng Nghwm Tawe Isaf
- £1.3m ar gyfer cae 3G yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe
- £2.8m i gwblhau'r gwaith o drawsnewid morglawdd y Mwmbwls
Daw cyllid ar gyfer y prosiectau o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys coffrau'r Fargen Ddinesig, a grantiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Ariennir cyfraniad y cyngor drwy dderbyniadau cyfalaf, refeniw, defnyddio cronfeydd wrth gefn a rhai trefniadau benthyca cyfradd sefydlog, tymor hir, cost isel sydd eisoes ar waith.
Bydd hefyd rywfaint o fenthyca gohiriedig i ddod gan y disgwylir i gyfraddau llog barhau i ostwng, gan fwyafu gwerth a lleihau cost benthyca.
Cytunodd y Cabinet ar y gyllideb gyfalaf yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror a bydd yn cyflwyno ei argymhellion terfynol i'r cyngor llawn ar 6 Mawrth.