Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddi mwy o arian nag erioed mewn gwasanaethau y flwyddyn nesaf

Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu buddsoddi mwy o arian nag erioed mewn ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, er ei fod yn wynebu pwysau ariannol enfawr.

arena from the air

Fel cynghorau eraill ledled y DU, mae Abertawe'n wynebu pwysau cyllidebol digynsail oherwydd costau uwch a galw cynyddol am wasanaethau hanfodol sy'n effeithio ar fywydau pobl ifanc a phobl sy'n agored i niwed bob dydd.

Mae hanes y Cyngor o reolaeth ariannol dda a'i ddefnydd doeth o adnoddau yn golygu bod ganddo ddigon o arian i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen y flwyddyn nesaf. Mae hefyd yn cynnig ariannu gwasanaethau drwy gynyddu Treth y Cyngor £1.46 yr wythnos ar gyfer cartrefi Band B.

Os cymeradwyir cynigion cyllidebol y Cyngor, bydd ysgolion yn cael cynnydd sylfaenol gwerth £23.3m a bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael mwy na £25.4m yn fwy o gyllid na'r llynedd, pan oedd gwariant ar y gwasanaethau hyn eisoes yn fwy nag erioed.

Mae'r swm sylfaenol ar gyfer addysg yn cynnwys prif gynnydd gwerth £11.8m, yn ogystal ag £11.5m ar gyfer cymorth tymor byr untro i ysgolion.

Mae hefyd £1m yn ychwanegol yn yr arfaeth ar gyfer y rhaglen meysydd chwarae hynod lwyddiannus sydd eisoes wedi buddsoddi £7m mewn cyfleusterau newydd ar gyfer pob cymuned. Daw'r addewid ochr yn ochr ag ymrwymiad gwerth £2.6m i genhedlaeth newydd o fannau sgelfrfyrddio a BMX ar draws y ddinas.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae cynghorau'n parhau i wynebu rhai o'r sefyllfaoedd ariannol mwyaf difrifol erioed oherwydd cyfuniad o chwyddiant cynyddol, costau uwch, galw ychwanegol gan breswylwyr a'r argyfwng digartrefedd cynyddol. 

"Mae gennym hanes o ddefnyddio ein harian yn gall a lleihau ein costau, sy'n golygu y gallwn roi mwy o arian nag erioed o'r blaen i wasanaethau hanfodol.

"Mae ysgolion yn cael 12% yn ychwanegol ac mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael 14.9% yn ychwanegol - sy'n llawer mwy na chyfradd bresennol chwyddiant. Dyma dystiolaeth amlwg bod Cyngor Abertawe, er gwaethaf yr holl heriau rydym yn eu hwynebu, yn blaenoriaethu'r gwasanaethau sy'n bwysicaf i'n preswylwyr.

"Rydym hefyd yn diogelu gwasanaethau rheng flaen ar adeg pan fo llawer o gynghorau eraill yng Nghymru a Lloegr yn ystyried cau canolfannau hamdden a llyfrgelloedd a lleihau patrolau croesfannau ysgol a chymorthdaliadau i wasanaethau bws."

Meddai'r Cyng. Stewart, "Rydym yn gwybod bod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i'w cefnogi drwy'r cyfnod anodd hwn.

"Dyna pam rydym yn cyfrannu at gadw costau'n isel drwy arbedion arfaethedig gwerth £18.4m ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

"Ond ar ben hynny, rydym wedi bod yn helpu teuluoedd a phobl hŷn drwy gydol y flwyddyn i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw drwy fentrau arbed arian fel gwasanaethau bws am ddim, grantiau cymorth bwyd ac ymgyrch Lleoedd Llesol Abertawe." 

I helpu i ariannu'r buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau, mae'r Cyngor yn cynnig cynyddu Treth y Cyngor 5.2% ar gyfer 2025/26, yn ogystal â rhoi 0.75% yn ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a hynny'n uniongyrchol.

Mae'r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor yn Abertawe'n debygol o fod ymysg y lleiaf yng Nghymru, o'i gymharu â 9.75% yn ardal gyfagos Sir Gaerfyrddin, y cynnydd gwerth 7% sy'n cael ei drafod yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae'r Cyngor wedi bod yn ymgynghori ar ei gynigion cyllidebol a bydd y Cabinet yn cwrdd ar 20 Chwefror i'w trafod.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Chwefror 2025