Toglo gwelededd dewislen symudol

Mwy o gyllid nag erioed yn yr arfaeth ar gyfer gwasanaethau hanfodol yn ystod y flwyddyn i ddod

Bydd cymunedau'n elwa o wariant mwy nag erioed, sef mwy na £584m, ar wasanaethau hanfodol y cyngor yn ystod y flwyddyn i ddod.

kerbside collection

Bydd gwelliannau go iawn i wasanaethau ar gyfer disgyblion ysgol, plant sy'n agored i niwed a phobl hŷn wrth i gyllid gynyddu ar raddfa uwch o lawer na chwyddiant.

Bydd mwy o arian hefyd i lenwi tyllau mewn ffyrdd a gwella ffyrdd ar ben y cyfanswm gwerth £8.1m a wariwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae gennym hanes o ddefnyddio'n harian yn gall a lleihau ein costau, sy'n golygu y gallwn roi mwy o arian nag erioed o'r blaen i wasanaethau hanfodol fel ysgolion a'r gwasanaethau cymdeithasol.

"Ar adeg pan fo pob ceiniog yn bwysig i bob teulu yn ystod yr argyfwng costau byw, rydym yn bwriadu gwario swm sy'n cyfateb i bron £5,400 ar gyfer pob aelwyd yn y ddinas.

"Os ceir cymeradwyaeth gan y cyngor llawn y mis nesaf, byddwn yn ymrwymo i fwy o fysus am ddim yn ystod gwyliau a mwy o ddigwyddiadau bwyd a lles am ddim ar gyfer y teuluoedd a'r unigolion yr effeithir arnynt fwyaf.

"Byddwn hefyd yn buddsoddi mwy yn ein parciau, ein meysydd chwarae, ein cyfleusterau sglefrio a BMX, yn ogystal â'n llyfrgelloedd.

"Rydym yn gwybod bod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i'w cefnogi drwy'r amser anodd hwn."

Er mwyn helpu i ariannu'r buddsoddiad mewn gwasanaethau, mae'r cyngor yn cynnig cynyddu Treth y Cyngor ar raddfa sydd ymysg yr isaf yng Nghymru, sef 5.95% neu £1.46 yr wythnos ar gyfer cartrefi Band B, a ddefnyddir yn gyfan gwbl i ariannu gwasanaethau. Bydd y 5.95% yn cynnwys ychydig yn llai nag 1% i ariannu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Cymru, sy'n golygu bod y cynnydd go iawn yn Nhreth y Cyngor yn agosach at 5%.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Chwefror 2025