Drwy gyflwyno'r atgyfeiriad hwn, caiff eich gwybodaeth ei rhannu â'ch awdurdod lleol, Corff Atebol Cysylltu â Gwaith De-orllewin Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Timau Gwerthuso Cysylltu â Gwaith a sefydliadau cefnogi lleol trydydd parti. Rydym yn gofyn am yr wybodaeth y mae ei hangen arnom i helpu i ddarparu'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad diweddaraf diduedd i chi yn unig.
Caiff eich gwybodaeth ei rhannu at y dibenion canlynol:
- I gysylltu â chi i drafod y prosiect Cysylltu â Gwaith a beth y bydd cymryd rhan yn ei gynnwys.
- I wirio a ydych yn gymwys i ymuno â'r prosiect Cysylltu â Gwaith.
- I gefnogi'r gwaith o gyflwyno a gwerthuso'r prosiect Cysylltu â Gwaith.
- Ar gyfer cyflogaeth a hyfforddiant.
- At ddibenion ymchwil.
- At ddibenion gwerthuso.
- Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael gwybodaeth amdanoch gan bartïon eraill at unrhyw un o ddibenion yr Adran Gwaith a Phensiynau, os yw'r gyfraith yn caniatáu hyn, i wirio gwybodaeth yr ydych yn ei darparu ac i wella ei gwasanaethau.
- Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau roi gwybodaeth amdanoch chi i sefydliadau eraill, os yw'r gyfraith yn caniatáu hyn, er enghraifft i amddiffyn yn erbyn trosedd.
- Efallai y caiff y rheini nad ydynt yn gymwys eu hatgyfeirio i ddarpariaethau cyflogaeth eraill yn eich awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau/cefnogaeth cyflogaeth.
Mae Cysylltu â Gwaith wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a chydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Delir eich gwybodaeth bersonol yn unol â chyfnodau cadw data Cysylltu â Gwaith.
O dan hawliau mynediad gwrthrych data a roddir gan y GDPR, mae hawl gennych ganfod pa wybodaeth sydd gan y prosiect Cysylltu â Gwaith amdanoch.
I gael rhagor o wybodaeth am ddibenion yr Adran Gwaith a Phensiynau, sut y mae'n defnyddio gwybodaeth bersonol at y dibenion hynny a'ch hawliau gwybodaeth, gan gynnwys sut i ofyn am gopi o'ch gwybodaeth, ewch i
www.gov.uk/government/organisations/department-for-work-pensions/about/personal-information-charter.cy.
I gael rhagor o wybodaeth am ddibenion Cysylltu â Gwaith, sut mae'r prosiect yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at y dibenion hynny a'ch hawliau gwybodaeth, gan gynnwys sut i ofyn am gopi o'ch gwybodaeth, e-bostiwch
CysylltuaGwaith@abertawe.gov.uk.