Toglo gwelededd dewislen symudol

Banciau bwyd a chymorth - adrodd am newid neu wneud cais i ychwanegu gwasanaeth

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am newidiadau i'ch banc bwyd / darpariaeth cymorth bwyd, neu i ofyn am gynnwys eich darpariaeth ar ein tudalen banciau bwyd a chymorth.

Newidiadau / diweddariadau i'r gwasanaethau presennol a ddarperir:

Cyn llenwi'r ffurflen hon, gwiriwch eich manylion cyfredol sydd wedi'u rhestru ar ein gwefan. Wrth wneud newidiadau i'ch gwasanaeth, bydd angen i chi ddarparu'r ddolen i'ch tudalen - gallwch gopï'r ddolen https: (url) o frig eich tudalen bresennol.

Ni fydd manylion eich cydlynydd yn ymddangos ar y wefan, mae angen y manylion hyn arnom i sicrhau bod y cais am newid yn ddilys a byddwn yn cysylltu â chi i gael cadarnhad.

Bydd newidiadau'n cael eu gwirio a'u cymeradwyo cyn iddynt ymddangos ar y wefan.

Cais i ychwanegu darpariaeth gwasanaeth newydd:

Gellir defnyddio'r ffurflen hon i ddarparu manylion banc bwyd / darpariaeth bwyd newydd i'w cynnwys ar ein gwedudalen. Cyn llenwi'r ffurflen hon (ar gyfer gwasanaeth newydd), sicrhewch fod eich busnes bwyd wedi'i gofrestru gyda ni a'i fod yn cydymffurfio â safonau hylendid bwyd.

Bydd manylion darpariaeth newydd yn cael eu gwirio a'u cymeradwyo cyn iddynt ymddangos ar y wefan.

Close Dewis iaith