Gwybodaeth am gymorth cymunedol
Rydym yn darparu gwybodaeth ar y wefan am fanciau bwyd a chymorth bwyd arall, Lleoedd Llesol Abertawe a chynhyrchion mislif am ddim.
Fel arfer bydd y sefydliadau sy'n darparu'r gwasanaethau hyn yng nghanol cymunedau Abertawe wedi derbyn grantiau a chyllid gennym i ddechrau, ond yn aml byddant yn parhau i wneud hynny mewn rhyw ffordd drwy gydol y flwyddyn yn seiliedig ar roddion caredig gan y cyhoedd a busnesau lleol, yn ogystal â grantiau ychwanegol.
Banciau bwyd a chymorth bwyd arall Banciau bwyd a chymorth bwyd arall
Lleoedd Llesol Abertawe Lleoedd Llesol Abertawe
Cynhyrchion mislif am ddim Cynhyrchion mislif am ddim
Ychwanegu manylion eich sefydliad at bob un o'n cyfeiriaduron
Mae'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno i'r cyhoedd yn seiliedig ar y lleoliad. Mae hyn yn golygu bod popeth sydd ar gael mewn adeilad ar gael ar un dudalen, felly gall gwybodaeth eich sefydliad fod ar yr un dudalen â gwybodaeth sefydliadau eraill. Gwiriwch y dolenni uchod i weld a oes tudalen eisoes wedi'i sefydlu ar gyfer eich lleoliad.
Mae hefyd yn syniad da i edrych ar ba wybodaeth sydd eisoes ar gael ar y tudalennau ac edrych ar sut mae'r wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno. Bydd hyn yn ein helpu i brosesu'ch gwybodaeth yn gynt.
Bydd yr wybodaeth yn cael ei gwirio a'i chymeradwyo cyn iddi gael ei hychwanegu at y wefan. Unwaith y bydd eich gwybodaeth neu'ch tudalen yn fyw, anfonir y ddolen atoch er mwyn i chi wirio bod yr holl fanylion yn gywir.
Gofynnwn i chi fod yn gyfrifol am eich gwybodaeth eich hun a dylech roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch gwybodaeth cyn gynted â phosib drwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein. Os nad ydych yn gwneud hyn, gall arwain at dynnu eich gwybodaeth oddi ar y wefan.
Sylwer y caiff cofnodion eu hychwanegu at y cyfeiriadur yn ôl disgresiwn Dinas a Sir Abertawe yn unig.
Ar gyfer Lleoedd Llesol Abertawe:
Rydym yn credu bod yr egwyddorion canlynol ar gyfer Lleoedd Llesol Abertawe'n bwysig ac rydym yn gofyn i'r holl drefnwyr gytuno â'r egwyddorion hyn:
- Ni fydd unrhyw un yn cael ei gwestiynu ynghylch pam ei fod yn defnyddio Lle Llesol yn Abertawe, dylai fod yn amgylchedd heb feirniadaeth.
- Bydd pawb yn cael eu croesawu a'u trin ag urddas a pharch.
- Mae Lle Llesol yn Abertawe yn rhywle diogel a bydd eich sefydliad yn gweithredu eich polisïau a'ch rheolau hylendid bwyd arferol yno.
- Ni fydd manylion personol unrhyw un yn cael eu rhannu heb ganiatâd penodol er mwyn rhoi cyngor neu gymorth pellach iddynt.