Cam un Bae Copr
Mae cynllun cam un Bae Copr sy'n werth £135m wedi'i arwain gan Gyngor Abertawe a'i gefnogi gan ystod o bartneriaid gan gynnwys RivingtonHark.


Mae'n cynnwys:
- Arena Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl ac a gynhelir gan Ambassador Theatre Group (ATG). Fe'i hariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe
- pont newydd Bae Copr dros Oystermouth Road
- Parc Arfordirol Amy Dilwyn - parc 1.1 erw
- bloc o 33 o fflatiau sy'n cael ei redeg gan Pobl Group
- cyfleusterau parcio newydd ar ddwy ochr Oystermouth Road
Ar ôl i'r contractwr gwreiddiol ar gyfer y cynllun fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, penodwyd Andrew Scott Ltd i orffen pob elfen anghyflawn o gam un Bae Copr. Mae'r rhain yn cynnwys y maes parcio a'r unedau manwerthu ar ochr canol y ddinas o'r brif ffordd.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2025