Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyrraedd carreg filltir yn y gwaith i adfywio'r gamlas

Mae cymdeithas Camlas Tawe wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei gwaith i adfywio dyfrffordd hanesyddol Camlas Tawe.

canal society new section opening

Ar ôl sawl blwyddyn o waith gan wirfoddolwyr a chefnogwyr, mae rhan o'r ddyfrffordd yng Nghlydach a fewnlenwyd yn flaenorol wedi dod yn fasn angori llawn dŵr.

Fe'i llenwyd gan ddŵr am y tro cyntaf ddydd Gwener mewn digwyddiad yr oedd arianwyr a chefnogwyr y prosiect, gan gynnwys y cyngor, yn bresennol ynddo.

Hefyd datgelwyd ramp lansio i'w ddefnyddio gan ganŵ-wyr a sianel gorlif a fydd yn cynnal lefelau dŵr y gamlas.

Hwyluswyd y gwaith o ganlyniad i raglen Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Croeso Cymru, gyda grantiau ychwanegol gan Gyngor Abertawe, grant gan y Postcode Community Trust, Glandwr Cymru a'r Canoe Foundation.

Roedd gwesteion dydd Gwener hefyd wedi gweld sut mae gwaith yn datblygu ar hen adeilad manwerthu adfeiliedig sy'n cael ei drawsnewid yn ganolfan ar gyfer y gamlas ac yn ased cymunedol bywiog.

Meddai Arweinydd y Cyngor y Cyng. Rob Stewart, "Wrth i'r cyngor hybu rhaglen adfywio £1bn y ddinas, bydd y gwelliannau i'r gamlas yn helpu i osod y sylfeini ar gyfer cyfleoedd swyddi ac ymwelwyr yn y dyfodol.

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyfrannu £22,000 o'n cronfa adferiad economaidd tuag at gam un y prosiect camlas gwych hwn.

"Rydym hefyd yn falch o fod wedi helpu i gyflwyno mwy na £210,000 mewn cyllid - gan gynnwys o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru - i brynu a chwblhau adeilad Canolfan Camlas Tawe.

"Rydym yn bwriadu cynnig cyllid ar gyfer ail gam cyffrous y cynllun hefyd - a bwriadwn wneud cyhoeddiad am hyn yn y dyfodol agos.

Meddai cadeirydd cymdeithas y gamlas, y Cyng. Gordon Walker "Rydym yn ddiolchgar iawn am yr arian i gwblhau cam cyntaf ailagor y gamlas drwy safle Loc Clydach. Bydd hyn yn helpu i gysylltu canol tref Clydach â choridor hyfryd y gamlas lle gall pobl fwynhau gweithgareddau hamdden iachus.

"Os gellir sicrhau cyllid pellach, bydd y loc claddedig ar y safle'n cael ei adfer yn llawn fel y gall llongau deithio i mewn i'r dref unwaith eto."

Meddai AS Gŵyr,Rebecca Evans, "Mae cymdeithas y gamlas wedi gwneud gwaith penigamp dros y blynyddoedd, gan roi bywyd newydd i'r rhan bwysig hon o'n treftadaeth.

Meddai Cyfarwyddwr Glandŵr Cymru, Mark Evans,"Mae adfywio'r rhan hon o'r gamlas a fewnlenwyd yn gam cyffrous arall ymlaen yn y gwaith i adfer dyfrffordd â chyfoeth o hanes."

Llun: Gwesteion yn nigwyddiad Cymdeithas Camlas Tawe ddydd Gwener.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Hydref 2023