Canolfannau cymunedol
Mae canolfannau cymunedol ym mron pob ardal o'r ddinas. Rydym yn berchen ar yr holl adeiladau a chânt eu rheoli gan bobl leol sydd wedi'u hethol i wasanaethau ar bwyllgorau rheoli gwirfoddol.
Mae'r adeiladau'n amrywio o neuaddau sengl bach, canolfannau neuadd amlbwrpas maint canolig i adeiladau mwy gyda mwy nag un neuadd, gan gynnwys neuaddau chwaraeon. Oherwydd hyn, gellir llogi'r adeiladau at nifer mawr o ddefnyddiau, gan gynnwys cyfleusterau cyfarfod, chwaraeon (megis athletau, pêl-fasged, pêl-droed, hyfforddiant cylchedu, crefft ymladd, etc), celf a chrefft, dosbarthiadau addysgol, drama, clybiau ieuenctid, grwpiau rhieni a phlant bach a phartïon pen-blwydd, i enwi ond rhai.
Am wybodaeth gyffredinol, ffoniwch y tîm ar 01792 635412 neu e-bostiwch adeiladaucymunedol@abertawe.gov.uk. I gadw lle, cysylltwch â'r ganolfan yn uniongyrchol.