Ysgolion, ffyrdd a chanol y ddinas yn elwa o £123m o wariant y cyngor
Gwelwyd buddsoddiad o fwy na £123m mewn ysgolion, strydoedd, canol y ddinas a chyfleusterau cymunedol ar draws y ddinas y llynedd, yn ôl adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Abertawe'r wythnos nesaf.
Roedd yr arian a wariwyd ar brosiectau'n amrywio o gyflwyno prydau ysgol am ddim i blant yn ysgolion cynradd y ddinas, i waith uwchraddio goleuadau stryd ac arian ychwanegol ar gyfer ailwynebu ffyrdd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, fod rhaglen Cyllideb Gyfalaf y cyngor yn gwneud gwahaniaeth i deuluoedd, cymunedau a busnesau ledled y ddinas yn ystod yr argyfwng costau byw.
Meddai, "Mae'r buddsoddiad o £1.3m yn y fenter prydau ysgol am ddim yn golygu bod mwy o blant yn cael prydau poeth am ddim bob diwrnod ysgol yn Abertawe.
"Mae'r arian ychwanegol a wariwyd ar ffyrdd, sef cyfanswm o £4.2m, yn helpu i atal dirywiad y ffyrdd ac mae'n hwyluso teithio i fodurwyr.
"Yn ogystal, mae ein penderfyniad i fuddsoddi yn y cynllun i brynu adeilad Debenhams, uwchraddio Ffordd y Brenin a throi adeilad adfeiliedig Theatr y Palace yn gymuned fusnes fywiog yn dangos ein hymrwymiad parhaus i adfywio canol y ddinas.
"Mae'r holl wariant hyn ar brosiectau allweddol yn ychwanegol at y cannoedd ar filiynau o bunnoedd rydym yn ei wario bob blwyddyn er mwyn cynnal gwasanaethau dyddiol fel ysgolion a gofal cymdeithasol sy'n cyffwrdd â bywydau bron pawb yn ein cymunedau.
"Mae cyllideb gyfalaf y cyngor ar gyfer prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, gan ymateb i flaenoriaethau teuluoedd lleol, buddsoddi yn nyfodol ein plant a chefnogi busnesau."
Sicrhawyd arian ar gyfer y gyllideb gyfalaf drwy grantiau cyfalaf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â chronfeydd y cyngor ei hun, gan gynnwys cronfeydd wrth gefn a neilltuwyd a benthyciadau cost isel iawn a gafwyd cyn i Fanc Lloegr godi cyfraddau llog.
Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn nodi bod bron £160m o'r arian wedi'i neilltuo i'r gyllideb gyfalaf ar gyfer y llynedd, y mae £123.6m ohono wedi'i wario. Rhagwelir y bydd unrhyw arian heb ei wario, yn bennaf oherwydd oedi wrth gyflawni prosiectau cymhleth, yn cael ei gario drosodd i'r flwyddyn ariannol hon.
Gwariwyd bron £12m ar ysgolion, gan gynnwys mwy na £6.2m ar waith cynnal a chadw ysgolion a gwaith uwchraddio sylweddol yn YG Gŵyr ac Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ac adeiladau newydd yn YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw.
Rhoddwyd mwy na £6.2m o grantiau Llywodraeth Cymru er mwyn parhau i ehangu rhwydwaith 120km Abertawe o lwybrau cerdded a beicio dan y rhaglen Teithio Llesol.
Neilltuwyd ychydig dros £10m ar gyfer y gwaith adeiladu parhaus yn 71/72 Ffordd y Brenin a fydd yn denu cannoedd o swyddi i ganol y ddinas unwaith y bydd wedi'i gwblhau, yn ogystal â £2.6m er mwyn prynu hen adeilad Debenhams yn y Cwadrant.
Bu buddsoddiad o £885,000 yn rhaglen uwchraddio goleuadau stryd LED y cyngor sy'n ceisio lleihau costau ynni'r cyngor a chyfrannu at ei uchelgeisiau carbon sero net.