Buddsoddiad mawr ar y gweill ar gyfer tirnod yng nghanol y ddinas
Bydd gerddi Sgwâr y Castell, ysgolion y ddinas a chyfleusterau cymunedol ar draws Abertawe yn destun buddsoddiad mawr yn y 12 mis nesaf.
Mae mwy na £83m wedi'i glustnodi i'w wario ar brosiectau adfywio hanfodol i gefnogi Abertawe a'i chymunedau wrth iddynt ddod allan o'r pandemig.
Mae buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ym mhrosiect pentref digidol 71/72 Ffordd y Brenin yn golygu y bydd gwaith adeiladu'n dechrau'n fuan.
Ar ben hynny, neilltuwyd £20m ar gyfer prosiectau â'r nod o roi hwb ychwanegol i Abertawe wrth iddi ddod allan o'r pandemig.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Er gwaethaf heriau'r pandemig, bydd Abertawe'n dod allan ohono wedi'i thrawsnewid ac yn gryfach nag erioed o'r blaen.
"Mae Arena Abertawe yn agor yn fuan a bydd yn hwb enfawr i forâl canol y ddinas, gan gynhyrchu miliynau o bunnoedd o incwm ychwanegol i economi'r ddinas am genedlaethau i ddod.
"Mae gwaith adeiladu ar 71/72 Ffordd y Brenin yn dechrau a, phan fydd wedi'i gwblhau, bydd yn gartref i weithle technoleg ddigidol newydd yng nghanol y ddinas, gan roi hwb i'r economi a nifer yr ymwelwyr.
"Yn ogystal, mae ein cynlluniau Cyllideb Cyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys cyllid pellach ar gyfer adnewyddu Theatr y Palace, Gerddi Sgwâr y Castell a thrawsnewid hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen yn hwb cymunedol, gan gynnwys llyfrgell newydd."
Tynnwyd sylw at y cynlluniau mewn adroddiad Cyllideb Cyfalaf a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 17 Chwefror sy'n nodi tua £83m o wariant cyfalaf ar brosiectau mawr dros y flwyddyn sydd i ddod, ar ben cost gychwynnol o bron £160m yn 2021/22.
Mae'r adroddiad yn amlygu sut mae buddsoddi mewn ysgolion newydd a gwaith uwchraddio wedi cymryd y gyfran fwyaf o fuddsoddiad cyfalaf. Mae'n golygu bod adeiladau newydd ar gyfer ysgolion cynradd yn YGG Tirdeunaw ac YGG Tan-y-Lan wedi'u cwblhau yn gynnar eleni, er gwaethaf yr heriau a oedd yn wynebu'r diwydiant adeiladu yn ystod y pandemig.
Disgwylir i'r gwaith yn YG Gŵyr gael ei gwblhau erbyn y gwanwyn a gwnaed cynnydd da o ran y gwaith datblygu dichonoldeb a dylunio ar gyfer YGG Bryn Tawe a gwaith ychwanegol yn Ysgol Gyfun Tre-gŵyr.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'n naturiol bod llawer o'r diddordeb ym mhroses adfywio Abertawe wedi canolbwyntio ar drawsnewid canol y ddinas dros y blynyddoedd diwethaf.
"Ond mae addysg yn fuddsoddiad tymor hir yn nyfodol ein plant a bywiogrwydd economaidd ein cymunedau am genedlaethau sydd i ddod. Dyna pam, ar y cyd â'r cymorth a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, rydym yn parhau i fuddsoddi'n helaeth yn ein hysgolion ac addysg.
"Ein rhaglen fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £150m yw'r un fwyaf erioed y mae'r cyngor wedi ymgymryd â hi ac mae'n dystiolaeth bod plant yn ffynnu mewn cyfleusterau modern, gyda chefnogaeth staff addysgu a staff ysgol rhagorol."
Nawr bod y cynlluniau wedi'u cymeradwyo gan y Cabinet, byddant yn mynd gerbron y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth am benderfyniad terfynol.