Toglo gwelededd dewislen symudol

Menter newydd yn sicrhau bod ardal Gŵyr yn addas ar gyfer seibiannau byr i blant anabl

Bydd gan blant anabl a'u teuluoedd gyfle i gael seibiannau byr mewn cartref oddi cartref o ganlyniad i fenter newydd a sefydlwyd gan Gyngor Abertawe a'r elusen Gweithredu dros Blant (GdB).

Holidays for disabled children

Mae Cyngor Abertawe wedi prynu tair carafán sefydlog i deuluoedd yn ardal ddelfrydol Gŵyr fel y gall plant fynd gyda'i teuluoedd i gael cyfnodau gofal seibiant byr oddi cartref.

Yn y gorffennol, mae plant anabl wedi gorfod cymryd cyfnodau gofal seibiant i ffwrdd o'u teuluoedd ond nawr, diolch i'r cyngor a GdB, gallant fynd ar eu gwyliau gyda'i gilydd.

Meddai Louise Gibbard, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau Gofal, "Mae pawb yn mwynhau seibiant byr yn ardal Gŵyr gan fod cyfleoedd i fwynhau'r golygfeydd hardd a'r awyr iach.

"Nawr, gall plant ifanc anabl a'u teuluoedd fynd i rywle newydd gyda'u gilydd yn hytrach na mynd ar wyliau ar wahân, a oedd yn gyffredin yn y gorffennol. 

"Trwy gydweithio â GdB, rydym wedi prynu'r carafanau sydd ger ei gilydd ar safle gwyliau yn Llanrhidian. Bydd ganddynt yr holl offer angenrheidiol i sicrhau y gall y plant a'u teuluoedd brofi'r seibiant byr gorau posib.

Bydd GdB, sydd eisoes yn gwneud llawer o waith gwych wrth gefnogi plant anabl a'u teuluoedd, yn gweithredu'r carafanau ac yn rhoi cymorth i'r teuluoedd yn ystod eu seibiant.

"Mae'n fenter newydd wych ac mae'n bleser gweld partneriaeth o'r fath rhwng y cyngor a GdB, sy'n cyflwyno'r cyfleoedd gorau i blant anabl y gymuned a'u teuluoedd."

Meddai Caroline Lewis, rheolwr arfer seibiannau byr Gweithredu dros Blant, "Mae ein teuluoedd yn profi heriau anodd bob dydd ac rydym yn falch iawn fod Cyngor Abertawe wedi gweithio gyda ni i ddarparu'r cyfleusterau gwych hyn. Bydd y carafanau'n darparu seibiant mawr ei angen mewn ardal brydferth gydag amwynderau hygyrch i blant ag anableddau."

Ychwanegodd Caroline, "Mae cael seibiant o'ch trefn feunyddiol yn werthfawr ac rwy'n siŵr y bydd ein teuluoedd yn mwynhau'r hyn sydd gan ardal Gŵyr i'w gynnig ac yn creu atgofion melys newydd. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Abertawe am eu cefnogaeth arbennig a'u haelioni wrth i ni gyflwyno hyn."

Bydd GdB yn gweithredu'r carafanau, yn trefnu'r archebion ac yn darparu cefnogaeth o ddydd i ddydd ar y safle.