Prynhawn o gerddoriaeth ac ysbryd cymunedol yn nigwyddiad Carolau yn y Castell
Castell Ystumllwynarth, y Mwmbwls, 14 Rhagfyr 2024.
Roedd awyrgylch hudolus Castell Ystumllwynarth yn llawn ysbryd y Nadolig yn ystod digwyddiad blynyddol Carolau yn y Castell. Roedd pawb a oedd yn bresennol wedi mwynhau cerddoriaeth a hwyl yr ŵyl gyda'r castell hanesyddol yn darparu cefndir syfrdanol.
Meddai Paul Lewis, Cadeirydd Cyfeillion Castell Ystumllwynarth, "Rydym yn falch iawn gyda nifer y bobl a ddaeth i gymryd rhan ac roedd yn wych gweld y gymuned yn dod ynghyd i ddathlu'r Nadolig.
"Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych i'r castell, rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i'r castell yn 2025."
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Mae Carolau yn y Castell yn ddigwyddiad Nadoligaidd hyfryd sy'n adlewyrchu rôl un o dirnodau mwyaf nodedig Abertawe yn ein cymuned.
"Diolch i waith Cyngor Abertawe a Chyfeillion Castell Ystumllwynarth, mae'r digwyddiad hwn a'r digwyddiadau amrywiol eraill a gynhaliwyd drwy gydol y flwyddyn, yn sicrhau bod rhywbeth i bawb ei fwynhau.
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau'r dyfodol yng Nghastell Ystumllwynarth a sut gallwch gefnogi mentrau cymunedol lleol, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth