Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun gostyngiadau parcio i breswylwyr yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet

Disgwylir i gynllun gostyngiadau parcio ceir ar gyfer preswylwyr gael ei lansio yn Abertawe i helpu i ddarparu prisiau parcio is i breswylwyr y ddinas.

Landore park and ride

Mae'r cynlluniau'n rhan o gynigion Cyngor Abertawe i gyflwyno prisiau parcio newydd ar gyfer meysydd parcio yn y ddinas a fydd yn sicrhau y gellir eu cynnal yn y blynyddoedd i ddod, a bydd y cynllun gostyngol newydd yn golygu y bydd preswylwyr Abertawe'n cael parcio rhatach na'r rheini sy'n byw y tu allan i'r ddinas ym mhob maes parcio a weithredir gan y cyngor.

Nid yw'r cyngor wedi cynyddu prisiau parcio ers 2014 ond mae'n dweud bod y cynlluniau diweddaraf yn angenrheidiol er mwyn cynnal meysydd parcio a sicrhau eu bod yn cynnwys y systemau talu mwyaf modern ar gyfer modurwyr.

Ni fydd y cynnydd arfaethedig mewn prisiau yn effeithio ar wasanaethau parcio a theithio yn y ddinas a byddant yn aros ar £1 fesul car tan o leiaf 2024.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Nid ydym wedi cynyddu prisiau parcio ers wyth mlynedd yn Abertawe, gan gynnal rhai o'r prisiau parcio isaf yn y wlad.

"Nawr, oherwydd pwysau'r argyfwng costau byw ar gyllidebau'r cyngor, mae angen ail-lunio a chynyddu prisiau o fis Ebrill ymlaen fel y gallwn sicrhau bod gwasanaethau parcio ceir yn cael eu diogelu a'u cynnal yn y blynyddoedd i ddod.

"Bydd preswylwyr yn Abertawe yn elwa o gynllun gostyngol yr ydym hefyd yn ei gyflwyno, a fydd yn eu galluogi i dalu ffïoedd parcio is o gymharu â modurwyr sy'n byw y tu allan i'r ddinas."

Dywedodd y Cynghorydd Stevens fod y cynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus drwy'r ymgynghoriad ar y gyllideb bresennol a bydd gan bobl dri mis arall o gostau parcio ceir isel iawn.

Roedd yr adroddiad i'r Cabinet yn nodi nifer o newidiadau eraill i brisiau parcio ceir, gan gynnwys pris o £2 drwy'r dydd ar gyfer dydd Sul, er mwyn sicrhau bod Abertawe yn cyd-fynd â lleoedd eraill fel Caerdydd, Caerfyrddin a Chasnewydd.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023