Toglo gwelededd dewislen symudol

Casglu asbestos o'ch cartref

Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu asbestos bondiog i breswylwyr Abertawe.

Mae asbestos bondiog yn cynnwys dalen sment asbestos rychiog, cynhyrchion wedi'u mowldio â sment asbestos, deunydd diddosi wedi'i wneud o fitwmen a theils llawr finyl.

Rhestr o brisiau casglu asbestos
Dalenni sment asbestos gwrymiog 6 modfedd (dwywaith mor drwchus â dalenni arferol) - 6 throedfedd x 4 troedfedd1-3 dalen: £50 fesul dalen
4 dalen neu fwy: £40 fesul dalen
Dalenni sment asbestos gwrymiog safonol - 6 throedfedd x 3 troedfedd1-3 dalen: £35 fesul dalen
4 dalen neu fwy: £30 fesul dalen
Teils crib sment asbestos£15 fesul teilsen
Un bag o deils sment/llawr asbestos wedi torri (25kg)1 bag: £50
2 fag neu fwy: £40
Peipiau pridd/gwastraff sment asbestos£100 fesul peipen wastraff (eiddo deulawr) 
£130 fesul peipen wastraff (eiddo tri llawr)
Cafnau a pheipiau dŵr sment asbestos£50 fesul peipen ddŵr
£100 fesul cafn 6 metr o hyd
Estyllod bondo sment asbestos£90 fesul 6 metr o hyd
Lleoliad casgluYchwanegir ardoll o £20 ar gyfer casgliadau sy'n fwy na phum milltir i ffwrdd o ddepo CBS yng Nghwmbwrla. 

Rhaid talu ymlaen llaw. Ni ddylid talu'r criwiau casglu.

Cais am gasgliad

I drefnu casgliad, ffoniwch 01792 635600. Dylech roi disgrifiad llawn o'r gwastraff i'w gasglu pan fyddwch yn trefnu'r casgliad.

Symiau mwy o asbestos

Os oes gennych nifer mawr o ddalennau asbestos bondiog, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â chwmni gwaredu gwastraff masnachol. Rhaid iddynt gael trwydded i drin a thrafod asbestos.

Bydd gan Gontractwyr Symud Asbestos Cymeradwy (ARCA) restr o gontractwyr yn ardal Abertawe a gymeradwywyd i symud asbestos. Ffoniwch nhw ar 01283 531126 neu e-bostiwch info@arca.org.uk.