Toglo gwelededd dewislen symudol

Pedair cymuned yn y ddinas i gael system CCTV

Bydd pedair cymuned yn cael systemau CCTV newydd fel rhan o waith pwysig i uwchraddio cyfleusterau ar draws y ddinas.

CCTV camera generic

Yn y flwyddyn i ddod, disgwylir i waith ddechrau yn y Mwmbwls, Pontarddulais, Gorseinon ac Uplands ynghyd â gwelliannau pellach i gyfleusterau presennol yng nghanol y ddinas, stadau tai'r cyngor a Threforys.

Bwriedir hefyd fwrw ymlaen â chynlluniau i ddatblygu rhwydwaith o wasanaethau wi-fi cymunedol ar y stryd am ddim yn y blynyddoedd i ddod gan fod y rhwydwaith eisoes wedi profi'n boblogaidd yng nghanol y ddinas.

Bydd ystafell reoli CCTV bresennol y cyngor hefyd yn cael ei huwchraddio.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad: "Bydd y rhaglen gwelliannau CCTV a gosodiadau newydd yn dechrau eleni. Mae'n brosiect i gefnogi'n cymunedau yn y blynyddoedd i ddod, a chefnogi'r heddlu a gwasanaethau brys eraill i helpu i gadw pobl yn ddiogel.

"Mae agoriad Arena Abertawe ynghyd â'r datblygiadau eraill sydd ar ddod yng nghanol y ddinas yn yr ychydig flynyddoedd nesaf y golygu bod angen i ni uwchraddio'n systemau CCTV yno.

"Os yw'r gwelliant yn Nhreforys a'r systemau newydd ar gyfer y Mwmbwls, Pontarddulais, Gorseinon ac Uplands yn llwyddiant, byddwn hefyd yn ystyried datblygu cynlluniau ar gyfer canolfannau ardal eraill.

Meddai, "Rydym eisoes wedi bod yn gwneud llawer o waith pwysig y tu ôl i'r llenni ar ddatblygu'n cynlluniau CCTV. Mae ymgynghorwyr CCTV arbenigol yn helpu i lunio cynlluniau ar gyfer y don gyntaf o brosiectau fel y gallwn rhoi'r gwaith ar dendr yn fuan.

"Ein dyhead yw dechrau gwaith ar osod gwell systemau CCTV a rhai o'r cynlluniau newydd eleni.

"Mae'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau wi-fi ar gyfer canolfannau ardal ar gam cynnar o hyd. Ond rydym wedi gweld pa mor boblogaidd yw'r gwasanaeth yng nghanol y ddinas a dyma'r rheswm pam y mae'r cyngor yn awyddus i ehangu ei rwydwaith i ardaloedd eraill dros amser."

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2022