Toglo gwelededd dewislen symudol

Cerdded yn agos i dda byw

Un o nodweddion arbennig Gŵyr yw'r ardaloedd mawr o iseldir rhostir comin lle gall ffermwyr â hawliau cominwyr bori eu da byw. Os ydych chi'n bwriadu cerdded yn yr ardaloedd hyn, bydd rhaid i chi gofio nifer o bethau.

Nid oes ffiniau cae ar draws y tiroedd comin, sy'n caniatáu i'r da byw bori ar ardal fawr. Mae hyn yn golygu y gallech chi ddod ar draws yr anifeiliaid hyn wrth ddefnyddio un o'r hawliau tramwy ym mhenrhyn Gŵyr. Yr anifeiliaid mwyaf cyffredin y gallech chi eu gweld yw buchod, defaid a cheffylau. Mae bywyd gwyllt a chynefinoedd yr ardal mor amrywiol oherwydd bod yr anifeiliaid hyn yn gallu pori'n rhydd.

Er mwyn mwynhau cefn gwlad i'r eithaf, ceisiwch fod yn ymwybodol o'ch amgylchiadau. Osgowch anifeiliaid os yw'n bosib a byddwch yn ymwybodol o'u symudiadau. Mae'n hollbwysig yn ystod y gwanwyn pan gall anifeiliaid fod yn magu eu hifainc.

Cyngor i gerddwyr

  • osgowch fynd rhwng buchod a'u lloeau. Gallent eich gweld chi'n fygythiad, yn enwedig os oes gennych chi gi
  • byddwch yn barod i dda byw ymateb i chi, yn enwedig os oes gennych chi gi
  • cerddwch heibio'r hyddgre yn gyflym ac yn dawel lle bo'n bosib. Efallai y bydd rhaid i chi newid y llwybr os ydych chi'n gwneud hyn
  • sicrhewch fod eich ci yn agos a dan reolaeth ger unrhyw dda byw
  • os yw eich ci'n cael ei fygwth, peidiwch â'i gydio'n dynn. Gollyngwch y tennyn fel y gall y ci redeg i ddiogelwch
  • peidiwch â pheryglu'ch hun
  • p'eidiwch â chynhyrfu neu redeg oherwydd gallai hyn godi ofn ar y buchod. Cerddwch i ffwrdd yn dawel.

Côd cerdded cŵn

The dog walking code has been produced to help ensure safe and happy walks for you, your dog and others.

  1. Sicrhewch fod eich ci dan reolaeth effeithiol, sy'n golygu:
    • bod gennych chi dennyn byr i'w ddefnyddio os bydd angen (e.e o gwmpas da byw, ger clogwyni neu lle mae arwyddion yn ei gwneud hi'n ofynnol)
    • ni ddylai'ch ci redeg yn rhydd oni bai ei fod mewn golwg ac yn ddigon agos i ddychwelyd atoch wrth alw
  2. Dylech atal eich ci rhag agosáu at farchogwyr, beicwyr neu bobl eraill a'u cŵn heb wahoddiad.
  3. Sicrhewch fod eich ci'n aros gyda chi ar lwybrau neu dir mynediad a pheidiwch â'i ganiatáu i grwydro trwy gnydau gan gynnwys caeau glaswellt, ffrwythau a llysiau.
  4. Ni ddylech byth ganiatáu i'ch ci gynhyrfu na rhedeg ar ôl bywyd gwyllt neu dda byw. Dilynwch gyngor ar arwyddion lleol i osgoi aflonyddu ar blanhigion ac anifeiliaid.
  5. Arhoswch yn DDIOGEL ger anifeiliaid fferm a cheffylau:
    • sicrhewch eich bod chi'n aros, edrych ac yn gwrando cyn i chi fynd i gae; byddwch yn ymwybodol o unrhyw anifeiliaid sy'n bresennol
    • ar bob adeg, cadwch eich ci ar dennyn byr
    • ffeindiwch y ffordd ddiogelaf i fynd heibio i anifeiliaid, gan roi llawer o le iddynt a defnyddio llwybrau neu dir mynediad lle bo'n bosib
    • gadewch yr ardal yn dawel os ydych chi'n cael eich bygwth, gan ryddhau'ch ci a'i gwneud hi'n haws i'r ddau ohonoch fod yn ddiogel
  6. Rhowch faw eich ci mewn bag a bin lle bynnag yr ydych chi. Gallwch chi ddefnyddio bin sbwriel cyhoeddus neu'r bin yn eich cartref.
  7. Peidiwch â gadael baw eich ci, hyd yn oed os ydych chi'n bwriadu ei gasglu'n ddiweddarach. Gall cynwysyddion a bagiau ag arogl helpu i chi ei gario.
  8. Sicrhewch fod eich manylion ar goler eich ci a bod eich ci wedi cael microsglodyn, fel y gallwch ddod o hyd iddo'n gyflym os yw'n mynd ar goll.
  9. Sicrhewch fod eich ci wedi cael y brechiadau diweddaraf. Gofynnwch i'ch milfeddyg i gael rhagor o wybodaeth.
  10. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol, neu edrychwch am arwyddion, i gael rhagor o wybodaeth am beth i'w wneud a lle i fynd yn eich ardal.

Cyngor i ffermwyr

Wrth ganiatáu i'ch da byw bori ar dir comin, dylech chi fod yn ymwybodol y gall cerddwyr ddefnyddio'r ardal hefyd. Os ydych chi'n credu y bydd anifail penodol yn cael ei gynhyrfu gan gerddwyr neu'n debyg o ymddwyn mewn ffordd ymosodol, dylech chi ystyried a ddylent bori ar dir comin.

Cattle and public access in England and Wales advice from HSE (Yn agor ffenestr newydd)

Os bydd digwyddiad

Os yw da byw yn ymosod arnoch neu os ydych chi wedi profi digwyddiad dychrynllyd, dylech chi roi gwybod i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch trwy e-bostio concerns@hse.gov.uk. Os yw'n ddigwyddiad difrifol, dylech hefyd gysylltu â'r heddlu.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Mehefin 2022