Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae Tîsm Comisiynu Cyngor Abertawe wedi comisiynu hysbysfwrdd newydd oddi ar Mumbles Road, ger y fynedfa i Barc Singleton. Comisiynwyd yr hysbyfwrdd i hyrwyddo Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru ac i gynyddu ymwybyddiaeth o'r cynnig gofal plant a ariennir i rieni a gofalwyr yng Nghymru.

Childcare Offer for Wales logo rainbow

Mae'r cyfle i hysbysebu Cynnig Gofal Plant Cymru y tu allan i Barc Singleton yn golygu y bydd negeseuon am y Cynnig Gofal Plant yn cael eu gweld gan lawer o bobl, gan helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o ofal plant a ariennir i blant 3 a 4 oed.

Mae Tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe yn cefnogi cyflwyno'r Cynnig Gofal Plant yn Abertawe - mae'r tîm wedi helpu cannoedd ar filoedd o deuluoedd gyda chostau gofal plant ac maent yn parhau i fod ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener i helpu gyda'ch ymholiadau am gyllid gofal plant.

Meddai Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, "Mae'r cynnig gofal plant ar waith i gefnogi teuluoedd sy'n gweithio i hawlio'r arian y mae ganddynt hawl iddo, sy'n mynd tuag at eu costau gofal plant. Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn ymroddedig i ledu'r gair i sicrhau bod rhieni/gofalwyr yn gwybod ble i fynd i gael gwybodaeth a sut y gallant wneud hawliad.

"Fel awdurdod, rydym yn gweithio'n agos gyda darparwyr gofal plant ar draws y ddinas sy'n darparu safon wych o ofal i blant ifanc mewn amgylcheddau meithringar a diogel sy'n canolbwyntio ar y plentyn, a byddem yn annog pobl i ddefnyddio'r cynllun gofal plant ac i gysylltu â ni nawr drwy ffonio 03000 628 628 neu e-bostio fis@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Yn ychwanegol i hyn, mae Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd i St David's Place ym mis Hydref 2024. Dewch i'r digwyddiad dychrynllyd ddydd Sadwrn 26 Hydref. Bydd St David's Place yn cael ei drawsnewid yn labordy bwganllyd a fydd yn llawn adloniant, hwyl, paentio wynebau a pherfformiadau byw gan ysgolion dawns Abertawe.

Mae staff y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd hefyd yn falch o gefnogi Ysbrydion yn y Ddinas. Byddant wrth law i gael sgwrs am gostau dychrynllyd gofal plant a sut gallant geisio helpu rhieni a gofalwyr i arbed arian ar gostau gofal plant.

Mae ceisiadau ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru yn agor yn fuan! 

Os wyt ti'n gymwys i gael cyllid o dymor y Gwanwyn 2025, galli di gyflwyno dy gais o 23 Hydref 2024. 

Edrych i weld a wyt ti'n gymwys a dechrau dy gais yn llyw.cymru/cynniggofalplant 

 #CynnigGofalPlantCymru 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Hydref 2024