Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe'n barod i ddathlu rhagoriaeth yn y diwydiant

Bydd Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe, sy'n cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth yn y sector, yn dychwelyd ar ôl hir ymaros ar 14 Tachwedd. Bydd Twristiaeth Bae Abertawe - wedi'i chefnogi gan Gyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru - yn cynnal y gwobrau eleni.

Rhossili Bay

Meddai Roy Church, Cyfarwyddwr Twristiaeth Bae Abertawe,

"Rydym yn falch o nifer y ceisiadau eleni ac maent bellach wedi'u cadarnhau a'u barnu'n annibynnol. Mae'r rhai llwyddiannus wedi cael eu gwahodd i gyflwyniad ffurfiol ar 14 Tachwedd yn Neuadd y Ddinas, lle cyhoeddir yr enillwyr. Bydd yr enillwyr yn cael cyfle i gymryd rhan yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru Croeso Cymru yng ngwanwyn 2025, gan gynrychioli Bae Abertawe ar lwyfan cenedlaethol."

Roedd 12 o gategorïau ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch eleni, ac ar ôl eu barnu'n annibynnol, mae'r busnesau canlynol wedi cyrraedd y rhestr fer:

Gwobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol:

·       Calon Lân Centre

·       Distyllfa Gwaith Copr Abertawe Penderyn

Gweithgaredd, Taith neu Brofiad Gorau:

·       Man Geni Dylan Thomas

·       Morgans Hotel

·       Savage Adventures

Atyniad Gorau:

·       Oriel Gelf Glynn Vivian

·       Pier y Mwmbwls

·       Sŵ Trofannol Plantasia

Llety Gwely a Brecwast, Tafarn a Thŷ Llety Gorau:

·       King Arthur Hotel

·       The Georgian Swansea

·       Tides Reach Guest House

Safle Carafanio, Gwersylla a Glampio Gorau:

·       Greenways of Gower Premier Leisure Park

·       Parc Gwyliau Llanrhidian

·       Parc Gwyliau Three Cliffs Bay

Busnes Gorau sy'n Croesawu Cŵn:

·       Clyne Farm Centre

·       Gower Fresh Christmas Trees

·       Parc Gwyliau Three Cliffs Bay

Digwyddiad Gorau:

·       Croeso

·       Gŵyl In It Together

·       Sioe Awyr Cymru

Gwesty Gorau:

·       Delta Hotels Swansea (Marriott)

·       Morgans Hotel

Lle Gorau i Fwyta:

·       Bwyty Beach House 

·       Desi Swaag

·       King Arthur Hotel

·       Nomad Bar & Kitchen

Llety Hunanarlwyo Gorau

·       Clyne Farm Centre

·       King Arthur Hotel

·       Plas Cilybebyll

Categori Bro a Byd (y rhai hynny sy'n mynd gam ymhellach o ran cynaliadwyedd amgylcheddol)

·       Delta Hotels Swansea (Marriott)

·       Parkmill Cottages

·       RSPCA

Gwobr Seren Newydd

·       Michaela Sargent - Arena Abertawe

·       Megan Rust - Bwyty Beach House

·       William Evans - Will's Petting Farm

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth,

"Rydym yn falch o gynnal Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe 2024 yn Neuadd y Ddinas fis nesaf. Mae'r gwobrau hyn yn dathlu'r busnesau lleol sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n heconomi a'n cymuned. Bydd y seremoni gyflwyno'n cynnig llwyfan gwych i ddathlu a rhyngweithio â'n gweithredwyr lleol.

"Mae cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori'n anrhydedd go iawn i ni, yn enwedig ochr yn ochr â chynifer o fusnesau teilwng eraill. Mae'n dangos cryfder diwydiant twristiaeth ein rhanbarth, ac rydym yn falch o fod yn rhan o grŵp mor eithriadol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Lles,

"Mae Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe'n gyfle ardderchog i barhau i godi safonau'r diwydiant a gwella profiad ymwelwyr. Hoffem ddiolch i'r holl weithredwyr a gymerodd ran yn y gwobrau eleni. Mae eu hymrwymiad yn dangos cyfraniad hollbwysig twristiaeth at ein cymunedau, ac rydym yn falch o weld bod ymroddiad o'r fath yn ysgogi'r diwydiant."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi sy'n gyfrifol am Dwristiaeth, Rebecca Evans:

"Rydym yn falch o gefnogi Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe gan eu bod yn gyfle i gydnabod a dathlu rhagoriaeth mewn diwydiant sy'n hanfodol i economi Cymru.

"Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu am wobr. Mae gan Fae Abertawe gymaint i'w gynnig i ymwelwyr - ac mae'r profiadau cadarnhaol o ansawdd uchel rydych chi'n eu darparu i'ch gwesteion yn cyfrannu'n aruthrol at ein hatyniad fel cyrchfan."

Cyhoeddir yr enillwyr ar wefan Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe ar ôl i'r gwobrau gael eu cynnal ar 14 Tachwedd

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Tachwedd 2024