Ymunwch â ni ar gyfer dathliadau'r Jiwbilî Frenhinol
Mae preswylwyr y ddinas yn cael y cyfle i fod yn dyst i ddathliadau dinesig hanesyddol Jiwbilî Blatinwm Ei Mawrhydi'r Frenhines nos Iau.
Wrth i'r Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad ddod ynghyd ar gyfer y dathliadau swyddogol, bydd Arglwydd Faer Abertawe, y Cyng. Mike Day yn arwain digwyddiad coffa Abertawe yn Neuadd y Ddinas o 09:30 ddydd Iau.
Yno bydd yn ymuno ag Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mrs Louise Fleet, a phwysigion eraill i oleuo ffagl goffaol ar rotwnda Neuadd y Ddinas.
Ar yr un noson, caiff ffagl ei goleuo hefyd ar y murfylchau yng Nghastell Ystumllwynarth, ymysg cannoedd o rai eraill sy'n cael eu goleuo ledled y wlad i ddathlu'r frenhines Brydeinig gyntaf i deyrnasu am 70 mlynedd.
Meddai'r Cynghorydd Day, "Mae traddodiad hir o ddathlu Jiwbilîs, priodasau a choroniadau Brenhinol wrth oleuo ffaglau.
"Mae cadwyn o ffaglau a ddefnyddiwyd unwaith fel offeryn cyfathrebu, bellach wedi dod yn symbol o undod ar draws trefi, ffiniau, gwledydd a chyfandiroedd ac maent yn aml yn ganolbwynt ffocws ar gyfer unrhyw gynulliad neu ddathliad yn yr awyr agored.
"Bydd goleuo ffaglau yn Abertawe yn ddigwyddiad gwirioneddol hanesyddol a bydd croeso i breswylwyr ddod i'r digwyddiad dinesig ger Neuadd y Ddinas."